Blynyddoedd Cynnar – Fideos Astudiaethau Achos

Gweithiodd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol â Cowshed Communications Ltd i ddatblygu ‘Weli di fi?’ – ymgyrch cyfryngau cymdeithasol y Blynyddoedd Cynnar. Roedd yr ymgyrch yn hyrwyddo cynllun Dysgu am Awtistiaeth y Blynyddoedd Cynnar gan annog lleoliadau’r blynyddoedd cynnar i gwblhau’r cynllun a defnyddio’r adnoddau sydd ar gael ar wefan Awtistiaeth Cymru.
Cynhaliwyd yr ymgyrch ar yr un pryd ag Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd. Fel rhan o’r ymgyrch cynhyrchodd Cowshed ddau fideo astudiaeth achos i ddangos sut y gall defnyddio’r adnoddau wella ymarfer.
Edrychwch ar y fideos astudiaeth achos uchod, sy’n cynnwys Little Tigers yn Rogit, Trefynwy a Chylch chwarae Snap Specialist Playgroup, Sir Benfro.