Trosolwg o’r Rhaglen Blynyddoedd Cynnar

Mae amcangyfrifon yn dweud wrthym ni fod gan tua un ym mhob 100 o blant Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth – neu ASA – sy’n golygu fod plant ag ASA yn bresennol mewn nifer o leoliadau i’r blynyddoedd cynnar.

Cyfres o raglenni yw Dysgu am Awtistiaeth gyda’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth am awtistiaeth led led lleoliadau addysgol a gofal gan gynnwys darpariaeth a gynhelir a nas cynhelir. Mae’r holl adnoddau ar gael heb unrhyw gost oddi wrth y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, gan eu bod yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu datblygu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  Mae Dysgu gydag Awtistiaeth – Y Blynyddoedd Cynnar mae ar gael i’w ddefnyddio gan bob ysgol briffrwd, darparwyr addysg blynyddoedd cynnar a lleoliadau blynyddoedd cynnar a gynhelir a heb eu cynnal.

Yn achos rhai lleoliadau, gallai fod yn fuddiol i ddefnyddio’r cynllun ar y cyd â’n cynllun i ysgolion cynradd, y gellir ei gyrchu yma: https://AutismWales.org/cy/addysg/rwyn-gweithio-mewn-ysgol-gynradd/

Mae Dysgu am Awtistiaeth – Y Blynyddoedd Cynnar yn wahoddiad i ddod yn ‘Lleoliad y Blynyddoedd Cynnar sy’n Ymwybodol o Awtistiaeth’, ac yn ogystal â’r canllaw hwn, mae pecyn o adnoddau ar gael i gefnogi’r broses:

  • I Staff y Blynyddoedd Cynnar, mae ffilm hyfforddiant sy’n dangos rhai o’r heriau sy’n wynebu plant ag ASA yn ystod diwrnod cyffredin, wedi’i chynllunio i ddatblygu ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth am y camau y gallwn eu cymryd i wella profiad a lefel ymgysylltiad y plant.
  • Awtistiaeth: Canllaw i Leoliadau’r Blynyddoedd Cynnar, canllaw cyflawn i ddeall a chefnogi plant sydd ag ASA.
  • Dau adnodd hunanwerthuso: un i bob lleoliad gofal plant e.e. grwpiau chwarae, lleoliadau Dechrau’n Deg a lleoliadau nas cynhelir sy’n seiliedig ar fframwaith arolygu AGGCC ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar a gofal plant. Mae’r adnodd arall yn seiliedig ar fframwaith arolygu Estyn i bob lleoliad sy’n cyflwyno lleoedd y cyfnod sylfaen. Bydd y ddau adnodd hunanwerthuso yn helpu lleoliadau i ddynodi eu darpariaeth a’u harferion cyfredol a chynllunio a monitro gwelliannau.
  • Cyflwyniad Power Point am yr anawsterau sydd ynghlwm ag awtistiaeth, holiadur ar-lein sy’n arwain at Dystysgrif Ymwybyddiaeth am ASA i staff lleoliadau blynyddoedd cynnar (arlwyo, gweinyddu, ac ati)
  • I blant, mae’r ffilm animeiddiedig ‘Teifi and Friends’, ar gael sy’n dangos sut y gall plant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar fod yn garedig wrth eu cyfoedion ag anghenion ychwanegol ac yn oddefgar ohonynt.

Mae amrywiaeth o adnoddau cefnogi sydd am ddim i’w defnyddio ar gael ar-lein;

  • Proffil Plentyn ar-lein sydd ar gael i staff dysgu, rhieni, cynhalwyr a gweithwyr proffesiynol. Pan mae pawb yn cydweithio, gall hwn fod yn adnodd effeithiol iawn wrth sicrhau cysondeb a pharhad i ofal plentyn ag ASA.
  • Cardiau Lluniau i blant. Adnodd syml, rhyngweithiol, lle gallwch chwilio, dewis, lawrlwytho ac argraffu cyfres o gardiau lluniau dwyieithog er mwyn creu siart strwythur i blentyn ag ASA.
  • Cardiau fflach– i gefnogi cyfarwyddiadau geiriol gyda chiwiau a chefnogaeth weledol gyda gweithgareddau penodol megis hyfforddi i ddefnyddio’r toiled.


Ar gyfer canllaw cam-wrth-gam i ennill y Gwobr Dysgu am Awtistiaeth Blynyddoedd Cynnar, dilynwch y ddolen isod:
Fideo ‘Sut i’ Blynyddoedd Cynnar – Awtistiaeth Cymru | Autism Wales | National Autism Team

Mae angen i bawb fod yn gefnogol o’r bwriad i greu Lleoliad y Blynyddoedd Cynnar sy’n Ymwybodol o Awtistiaeth. Wrth i unigolion ddod i ddeall mwy am ASA, mae eu gweithredoedd yn dylanwadu ar y bobl o’u cwmpas, a gall y cysyniad gael ei wireddu.

Mae cynyddu ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn medru trawsnewid bywydau: bywydau plant ag ASA a bywydau’r sawl sydd o’u cwmpas. Mae’r broses yn meithrin dealltwriaeth, goddefgarwch a pharch, er mwyn i ni i gyd gyrraedd ein llawn botensial gyda’n gilydd