Straeon Digidol

Croeso i’n tudalen Straeon Digidol. Yn yr adran hon, fe welwch amrywiaeth o gyfweliadau o’n cyfres Straeon Digidol.

Mae’r gyfres yn cynnwys cyfweliadau gyda phobl o fewn y gymuned niwroamrywiol, ac yn gofyn beth hoffent i rieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol, a’r cyhoedd yn gyffredinol ei wybod am awtistiaeth.

Bydd y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol yn parhau i gynhyrchu straeon digidol i ddathlu cyflawniadau’r rheini o fewn y gymuned niwroamrywiol ledled Cymru.

Dewiswch fideo o’r rhestr i wylio recordiad. I wylio recordiad ar y sgrin lawn, cliciwch y botwm yma:

I gael rhagor o wybodaeth am bob fideo yn y gyfres, cliciwch ar yr enwau yn y rhestr isod:

Dim ond un enghraifft o nifer yw Gerraint o rywun rydym wedi cyfarfod a gweithio gydag a gyda phwy sy’n fodel rôl ardderchog ar gyfer oedolion ifanc awtistig. Mae profiad Gerraint a’i deulu yn cynnig enghraifft ardderchog o achos lle mae gwasanaethau statudol a’r trydydd sector wedi cyfuno’n effeithiol i wella lles plentyn ifanc awtistig a’i alluogi i gyrraedd ei botensial llawn wrth drawsnewid i fod yn oedolyn.

Cwrdd â Gerraint!
Aeth Gerraint o fod yn analluog i siarad fel plentyn ifanc, i gyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol ar draws Gymru ac mae wedi sicrhau gwaith fel Llysgennad Arweiniol ar gyfer cynllun cefnogaeth Engage to Change, a ddarparwyd mewn partneriaeth rhwng Anableddau Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Rhoi Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Prifysgol Caerdydd, Cyflogaeth a Gefnogir ELITE ac mewn cydweithrediad â Phrosiect DFN SEARCH. Ariennir y prosiect gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Pam cafodd y ffilm ei chreu?
Crëwyd y ffilm wedi i Gerraint Jones Griffiths gwblhau lleoliad gwaith gyda’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn ystod Gaeaf 2019. Yn ystod y lleoliad hwn, gwnaeth Gerraint gyflwyniad mewn diwrnod hyfforddiant a hwyluswyd gan y Tîm, a’r adborth a gafwyd oedd bod hanes Gerraint mor llawn ysbrydoliaeth a gwybodaeth dylid ei rannu’n ehangach. Bydd y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn parhau i gynhyrchu hanesion digidol fel yr un hon i ddathlu llwyddiannau unigolion awtistig ar draws Cymru yn y dyfodol.

Testamentau
Dywedodd Gerraint Jones-Griffiths, Llysgennad Arweiniol, Engage to Change: “Unwaith eich bod wedi cael diagnosis, yr un person fyddwch chi ag oeddech chi cynt. Rydw i wir yn credu fod bod yn awtistig yn rhodd ac yn rhywbeth y dylech ei dderbyn a bod yn falch ohono. O’m safbwynt i, nid yw A’n sefyll am awtistiaeth, mae A’n sefyll am ‘achievement’!”

Dywedodd Samantha Williams, Swyddog Cyfathrebu Ymgysylltu i Newid, Anabledd Dysgu Cymru: “Mae Gerraint wedi bod yn rhagorol yn ei swydd fel Llysgennad Arweiniol ar gyfer y prosiect Ymgysylltu i Newid. Mae ei gyflwyniadau mewn digwyddiadau bob amser mor ddiddorol a difyr – mae wir yn berfformiwr! Mae’n gweithio’n galed i ledaenu’r gair y bydd, ac mae gan, bobl sydd ag anableddau dysgu neu awtistiaeth, swyddi gyda thâl.”

Dywedodd Joe Powell, Prif Weithredwr Pobl Yn Gyntaf Cymru: “Mae Gerraint wir yn ysbrydoliaeth i bobl ar y sbectrwm awtistiaeth ac yn llysgennad ar gyfer beth ellir ei gyflawni gyda’r ddealltwriaeth a’r gefnogaeth gywir. Mae’n fraint cael ei adnabod ac rwy’n ei ganol a’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol am gynhyrchu’r ffilm wych hon.”

Roeddem yn ddigon ffodus i sgwrsio gyda Willow Holloway dros y we yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol i weld sut roedd yn dod yn ei blaen, i glywed mwy am y gwaith eiriolaeth y mae wedi bod yn ei arwain dros y blynyddoedd diwethaf, a sut mae hyn wedi parhau, er gwaethaf COVID-19. Mae Willow wedi cydweithio gyda’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar nifer o brosiectau, gan gymryd rhan yn fwyaf diweddar fel aelod o Dîm Awtistiaeth Rhithwir Cymru Gyfan (a sefydlwyd gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ym Mawrth 2020) sy’n anelu i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i bobl awtistig a’u teuluoedd yn ystod cyfnod clo COVID-19 a’r dychwelyd wedi hynny i “normal newydd”.

Cwrdd â Willow!
Mae Willow yn eiriolwr awtistig ysbrydoledig ac yn ymgynghorydd gyda phrofiad byw. Hi yw’r Cadeirydd Gweithredol a’r Arweinydd Strategol ar gyfer Autistic UK yng Ngogledd Cymru, lle mae nawr wedi ei lleoli, ac mae wedi bod yn Is Gadeirydd i Fwrdd Anabledd Cymru ers 2016. Derbyniodd Willow ddiagnosis hwyr o awtistiaeth yn 44 oed ac yma mae’n sôn am yr effaith y mae derbyn y diagnosis wedi ei gael ar ei bywyd.

Yn ddiweddar, gwnaethom gyfarfod â Hazel Lim yn Theatr y Grand Abertawe i siarad â hi am sut mae awtistiaeth yn cael ei gweld yn y gymuned Tsieineaidd, a pha wybodaeth a chyngor yr oedd ganddi i’w rhannu â gweithwyr proffesiynol, a’r rhai sy’n gweithio gyda phobl awtistig, am sut y gall hyn effeithio ar ymarfer.

Cwrdd â Hazel!
Hazel yw sylfaenydd y Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd, llwyfan a grëwyd mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru yn Abertawe, lle mae Hazel bellach wedi’i lleoli. Mae ganddi MSc mewn Awtistiaeth a Chyflyrau Cysylltiedig, ac mae hefyd yn fam i fab awtistig. Yma, mae’n siarad am sut y gwnaeth deall cyflwr ei mab ei gosod ar y llwybr i helpu i gefnogi rhieni/gofalwyr eraill yn y gymuned Tsieineaidd, a sut y gall gweithwyr proffesiynol addasu eu hymarfer i sicrhau bod gwasanaethau’n hygyrch i bobl awtistig a’u teuluoedd yn y gymuned.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y Grŵp Cymorth Awtistiaeth Tsieineaidd.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am y Gymdeithas Tsieineaidd yng Nghymru.

Why was the film created?
This is the third film in a series that the National Autism Team are producing (the first film in the series was Getting to know Gerraint and the second film was Working with Willow), where we ask people within the autistic community what they would like parents/carers, professionals, and the general public to know about autism. The National Autism Team will continue to produce digital stories to celebrate the achievements of those within the autistic community across Wales.

Yn ddiweddar, cawsom gyfarfod ag Ewan Richards ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, lle siaradodd â ni am ei brofiad fel person awtistig, sut mae hyn wedi effeithio ar ei brofiadau mewn addysg a chyflogaeth, a hefyd rhannodd rai enghreifftiau o gyfathrebu effeithiol.

Cwrdd â Ewan!
Mae Ewan yn awtistig ac yn ddiweddar enillodd Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cyfrifiadureg BSc, ac mae ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer gradd Meistr ar hyn o bryd mewn Peirianneg Meddalwedd Cyfrifiadura, ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant. Cafodd Ewan ddiagnosis o awtistiaeth yn 11 oed, ac yma mae’n sôn am sut yr effeithiodd hyn ar ei brofiadau mewn addysg a chyflogaeth.