Yn ôl Canllawiau CG170 NICE,  Autism in under 19s: support and management [www.nice.org.uk/guidance/cg170]

Man cychwyn datrys problemau cysgu yw cynllun, nid triniaeth.

Dim ond os nad yw cynllun wedi llwyddo, neu os yw diffyg cwsg yn effeithio ar blentyn/llencyn a’i gynhalwyr y dylech chi ystyried moddion, a hynny yn ôl yr amodau isod:

  • rhaid ymgynghori â phaediatregydd neu seicolegydd plant sy’n hyddysg ynghylch awtistiaeth neu foddion sy’n helpu plant i gysgu;
  • rhaid defnyddio’r moddion ynghyd â dulliau eraill;
  • rhaid adolygu’r sefyllfa yn rheolaidd.

Wrth asesu problemau cysgu mewn plentyn a chanddo awtistiaeth, dylech chi gymryd y canlynol i ystyriaeth:

  • natur y broblem (megis oedi cyn cysgu, deffro’n aml, ymddygiad anarferol, problemau anadlu neu gysgu yn ystod y dydd);
  • patrymau cysgu ddydd a nos, ac unrhyw newid ynddynt;
  • mynd i’r gwely yr un pryd bob nos;
  • cyflwr yr ystafell wely:
    • sŵn yn y cefndir;
    • defnyddio llenni;
    • teledu neu gyfrifiadur yno;
    • rhannu’r ystafell.
  • unrhyw anhwylderau eraill, yn arbennig rhai sy’n ymwneud â gorfywiogrwydd neu broblemau ymddygiadol eraill;
  • lefelau gweithgarwch ac ymarfer yn ystod y dydd;
  • afiechyd neu boen megis adlif, pigyn yn y glust, y ddannoedd, diffyg traul neu lid ar y croen;
  • effeithiau unrhyw foddion;
  • unrhyw ffactorau eraill allai amharu ar gwsg megis perthynas deimladol neu broblemau yn yr ysgol;
  • effaith problemau cysgu ac ymddwyn ar rieni, cynhalwyr a phawb arall yn y teulu.

 

Os yw’r plentyn yn chwyrnu’n uchel, yn tagu neu heb anadlu wrth gysgu, yn ôl pob golwg, rhaid ei atgyfeirio i’w asesu ynghylch diffyg anadl.

Paratoi cynllun cysgu ar y cyd â rhieni/cynhalwyr.

Dadlwythiadau

Awtistiaeth: Canllaw i Rieni a Chynhal wyr yn dilyn Diagnosis
Anawsterau Cysgu mewn Plant ag Awtistiaeth