Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol – Digwyddiad Ail-lansio

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol bellach wedi ail-lansio’n swyddogol fel y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol! Yn ein Digwyddiad Ail-lansio, dangosodd ein siaradwyr gwadd a’n gwesteion o bob cwr o Gymru yr hyn sydd wedi’i gyflawni ym maes #awtistiaeth, a’r camau nesaf i ehangu’r cwmpas i gynnwys #niwrowahaniaeth, gan gynnwys #ADHD a chyflyrau #Tourettes a Thiciau. Bu i’n […]

Cyflwyno NiwrowahaniaethCymru.org!

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi lansiad ein parth gwe newydd, NiwrowahaniaethCymru.org! Mae hyn yn nodi’r cam nesaf yn y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol sy’n gweithio ochr yn ochr â’r gymuned niwrowahanol i helpu i wella bywydau pobl niwrowahanol a’u teuluoedd yng Nghymru. Fel rhan o’r diweddariad hwn, rydym hefyd yn gyffrous i gyflwyno set o adnoddau […]

#TourettesHurts – Mis Ymwybyddiaeth Tourette 2024

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Tourette, mae Tourettes Action yn cynnal ymgyrch o’r enw #TourettesHurts sydd â’r nod o dynnu sylw at yr effaith y gall Tourette’s ei chael ar y rhai sydd â’r cyflwr, a’r rhai o’u cwmpas, a chael gwared ar stigmateiddio Tourette’s trwy addysgu a hysbysebu. Bydd yr ymgyrch yn dangos i’r cyhoedd […]

Digwyddiadau Lansio Canolfan Awtistiaeth Castell-nedd Port Talbot

Mae Hyb Awtistiaeth Castell-nedd Port Talbot yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i rannu gwybodaeth am y ganolfan newydd a’ch galluogi i helpu i lunio’r cymorth a gynigir. Os ydych yn 16+ ac yn nodi eich bod yn Awtistig, fe’ch gwahoddir i fynychu’r digwyddiadau canlynol (mae croeso hefyd i deulu a ffrindiau): 📅 Dydd Mercher 6 […]