Adnewyddu Cynllun Gweithredu Strategol Cymru
Efallai eich bod yn gwybod bod Dirprwy Weinidog y Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC, wedi addo adnewyddu Cynllun Gweithredu Strategol Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd a gyhoeddwyd yn 2008. Gan fod ei swyddogion ar fin cau pen y mwdwl ar y fersiwn newydd, mae’n bryd inni roi gwybod am y gwaith sydd wedi’i gyflawni a dweud rhagor am yr ymgynghori cyhoeddus sydd i ddod.
Mae blaenoriaethau newydd y cynllun wedi’u pennu yn sgîl adborth y budd-ddalwyr – yn arbennig pobl ac arnyn nhw awtistiaeth, eu rhieni a’u cynhalwyr. Ar y cyd â mudiadau gwirfoddol dros awtistiaeth, cynhalion ni gyfarfodydd ymgynghori fis Tachwedd 2012 ac rydyn ni wedi cael cyfle i siarad yn uniongyrchol â rhai grwpiau awtistiaeth. Dyma’r prif flaenoriaethau ddeilliodd o’r ymgynghori:
• Asesu, diagnosis a chymorth (cyn diagnosis ac wedyn) i blant ac oedolion.
• Adolygu isadeiledd awdurdodau lleol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd.
• Addysg, pontio a chyflogi.
• Ymyriadau.
• Hyfforddiant ac ymwybyddiaeth.
Wrth bennu’r blaenoriaethau, sefydlon ni gylch ymgynghorol ac iddo aelodau a allai gynnig cynghorion a chyfarwyddyd arbenigol. Ymhlith yr aelodau, mae rhiant sy’n gynhaliwr a rhywun ac arno Syndrom Asperger. Mae rhai aelodau eraill yn cynrychioli’r gwasanaethau statudol a gwirfoddol sy’n rhoi cymorth i bobl ac arnyn nhw awtistiaeth.
Rydyn ni’n gwybod bod angen mynd i’r afael yn fater o frys â rhai o’r materion sydd wedi’u nodi, ac rydyn ni’n cymryd camau yn barod i sefydlu cylch gorchwyl a gorffen dros faterion diagnosis plant ac arnyn nhw anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd yn ymateb i bryderon rhai rhieni a chynhalwyr am faint o amser mae’i angen i roi diagnosis mewn nifer o ardaloedd.
I wella’r defnydd o’r cynllun newydd, rydyn ni wedi mynd ati i gryfhau’r llywodraethu a’r atebolrwydd, hefyd. O ganlyniad, bydd i’r cynllun newydd drefniadau cyflawni fel y gall pawb fesur y cynnydd yn ôl y deilliannau sydd wedi’u pennu. Ar ôl gorffen y cynllun, y cam nesaf fydd ei gyhoeddi i ddibenion ymgynghori dros 12 wythnos. Byddwn ni’n hel sylwadau budd-ddalwyr ac yn gofyn cwestiynau penodol am ein cynigion. Yn ogystal â gofyn am adborth ysgrifenedig, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal gweithdai ymgynghori bychain fydd yn rhoi cyfle inni drafod ein bwriad gyda’r budd-ddalwyr yn uniongyrchol. Gofynnir i swyddogion dros faterion anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd helpu i gysylltu â grwpiau lleol i’w gwahodd i gymryd rhan. Yn y cyfamser, byddwn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r swyddogion hynny fel y gallan nhw ateb unrhyw ymholiadau.
Ar ôl inni ddadansoddi ymatebion i’r ymgynghori a newid y cynllun yn briodol, byddwn ni’n cyhoeddi’r fersiwn terfynol ynghyd â’r trefniadau cyflawni fel y bydd modd i’r gweithredu ddechrau yn 2015.
Llunio polisïau er lles plant ac oedolion, Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymathu Llywodraeth Cymru
Adnoddau ar y we
Mae proses llunio a lledaenu adnoddau i bobl ac arnyn nhw anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd, eu rhieni a’u cynhalwyr yn parhau trwy: www.ASDinfoWales.co.uk
Trefnydd
Mae’r trefnydd wedi’i addasu ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple bellach. Mae rhagor o wybodaeth ar: www.ASDinfoWales.co.uk/ASDplanner.
Fideo cynghori gweithwyr gofal iechyd sylfaenol
Mae’r ffilm fer hon yn cynghori gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol am helpu pobl ac arnyn nhw anhwylderau i gael gafael ar wasanaethau. Bydd swyddogion arwain materion anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd yn rhoi disgen i bob meddygfa. At hynny, mae modd gwylio’r ffilm ar: www.ASDinfoWales.co.uk/professionalvideos
Cynghori rhieni a chynhalwyr am anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd
Dyma bum ffilm fer sy’n cynghori rhieni a chynhalwyr plant ac arnyn nhw anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd ar ôl diagnosis. Maen nhw ar gael trwy swyddogion cynghorau lleol ac mae modd eu gwylio ar www.ASDinfoWales.co.uk/parentvideos hefyd.
Awtistiaeth: Llawlyfr i oedolion ar ôl Diagnosis
Mae’r llawlyfr hwn ar gael i oedolion ar ôl diagnosis – naill ai ar ffurf copi caled neu ar: www.ASDinfoWales.co.uk/resourcesforadults.
I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges at: ASDinfo@WLGA.gov.uk