Rydym yn croesawu Sian Lewis yn wresog fel Pennaeth Gwasanaeth newydd y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol. Hefyd ar y foment hon hoffem anrhydeddu gwaddol nodedig Wendy Thomas.
Mae arweinyddiaeth llawn gweledigaeth Wendy wedi bod yn allweddol o ran ffurfio tirwedd cefnogaeth i niwrowahaniaeth yng Nghymru. Mae ei hymrwymiad i gyd-gynhyrchu a chydweithio wedi sicrhau fod lleisiau o bob cwr o’r gymuned niwrowahanol wedi llywio mentrau. O arloesi gydag adnoddau hanfodol ac arwain digwyddiadau a oedd yn creu effaith, i gefnogi’r trawsnewidiad o ASDinfoCymru i Niwrowahaniaeth Cymru. Mae ei hymroddiad yn gadael sylfaen barhaus ar gyfer cynnydd cynhwysol.
Nawr mae Sian Lewis yn camu i’r rôl gyda chyfoeth o brofiad ac ymrwymiad dwfn i barhau gyda’r gwaddol hwn. Gyda chefndir mewn gwaith cymdeithasol, arweinyddiaeth helaeth ar draws y gwasanaethau rhanbarthol ac yn fwy diweddar fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer y Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth, daw Sian ag angerdd a diben i’r llwybr sydd o’n blaenau:
“Mae’n anrhydedd gwirioneddol i ymgymryd â’r rôl hon ac rwy’n gyffrous iawn am y daith sydd o’n blaenau… Mae egni enfawr yng Nghymru dros newid ac rwy’n edrych ymlaen at i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i wella canlyniadau i’r boblogaeth niwrowahanol.”
Mae’r cam hwn yn nodi ymadawiad Sian o’i swydd fel Rheolwr Rhaglen ar gyfer y Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth wrth iddi fynd i’r afael â’i chyfrifoldebau newydd gyda’r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol. Edrychwn ymlaen at y bennod newydd hon gydag egni, optimistiaeth a phwrpas a rennir.
Cliciwch yma i weld y Datganiad Rhagarweiniol llawn gan y Pennaeth Gwasanaeth newydd Sian Lewis.