Beth yw awtistiaeth?

Mae’r dudalen hon yn amlygu adnoddau allweddol ar ein gwefan sy’n helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o awtistiaeth.

Mae amrywiaeth o adnoddau wedi’u datblygu mewn partneriaeth â phobl awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n esbonio’n glir beth yw awtistiaeth a sut mae’n effeithio ar ryngweithio pobl awtistig â’r byd o’u cwmpas.

Ar gyfer pwy mae’r ffilm?

Dyluniwyd y ffilm i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth. Mae’r Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol wedi gweithio i gadw eu hadnoddau a’u hiaith yn ddiweddar ac yn gyfredol er mwyn adlewyrchu beth y dymuna pobl awtistig i bobl i bobl niwro-nodweddiadol ei ddeall am awtistiaeth, ac mae diweddaru’r cynllun hwn yn un enghraifft o hyn.

Am beth mae’r ffilm yn sôn?

Mae’r ffilm yn dilyn tri unigolyn awtistig – Amara Tamblyn, Rhiannon Lloyd-Williams ac Osian Harries – wrth iddynt archwilio beth mae eu hawtistiaeth yn ei olygu iddynt hwy, gan gynnwys: cyfathrebu cymdeithasol, patrymau ac arferion; profiad synhwyraidd; a sut i wella pethau. Mae’r ffilm yn cynnwys llais proffesiynol y Seicolegydd ymgynghorol, Dr Elin Walker Jones hefyd.

Yn yr adran hon mae set o fodiwlau strwythuredig sy’n dilyn Fframwaith Hyfforddiant Awtistiaeth Cenedlaethol Cymru.

Mae’r modiwlau hyn wedi’u cydgynhyrchu â grŵp cynghori o bobl niwrowahanol ac maent yn cynnwys eu lleisiau a’u profiadau.

Bydd y dudalen yn cael ei diweddaru’n barhaus gydag unrhyw adnoddau eDdysgu ar-lein newydd y mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn eu cynhyrchu.

Modiwlau e-ddysgu cyfredol sydd ar gael:

  • Deall Awtistiaeth
  • Awtistiaeth a Deall Sut i Gyfathrebu’n Effeithiol

Cliciwch yma i weld ein modiwlau eDdysgu.

Yn yr adran hon, fe welwch recordiadau o’n digwyddiadau yn y Gymuned Ymarfer, sy’n canolbwyntio ar ystod o wahanol gyflyrau niwroddargyfeiriol, a materion sy’n effeithio ar y gymuned niwroddargyfeiriol.

Bydd yr adran hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd pan gynhelir y digwyddiadau hyn.

Cliciwch yma i weld ein Sesiynau Cymunedol Ymarfer.

Yn yr adran hon, fe welwch amrywiaeth o gyfweliadau o’n cyfres Straeon Digidol.

Mae’r gyfres yn cynnwys cyfweliadau â phobl o’r gymuned awtistig, ac yn gofyn beth hoffent i rieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol, a’r cyhoedd yn gyffredinol ei wybod am awtistiaeth.

Cliciwch yma i weld ein Straeon Digidol.

Mae’r Compendiwm Astudiaethau Achos arfer gorau yn arddangos yr ystod o waith effeithiol sy’n cael ei wneud ledled Cymru.

Mae pob astudiaeth achos yn cynnwys lleisiau pobl awtistig a/neu riant/gofalwyr pobl awtistig, gan fyfyrio ar sut mae’r cymorth a’r ymyriadau a roddwyd ar waith wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

Cliciwch yma i weld ein casgliad o Astudiaeth Achos.

Yn yr adran hon mae dolenni i amrywiaeth o daflenni cyngor, gan gynnwys y rhai ar gyfer oedolion awtistig, rhieni/gofalwyr a mwy.

Mae’r taflenni cyngor wedi’u cydgynhyrchu gyda grŵp cynghori o bobl niwro-ddargyfeiriol.

Bydd yr adran hon yn cael ei diweddaru’n barhaus gydag unrhyw daflenni cyngor newydd a gynhyrchir.

Cliciwch yma i weld ein Taflenni Cyngor.