{"id":2001,"date":"2016-11-30T07:06:33","date_gmt":"2016-11-30T07:06:33","guid":{"rendered":"https:\/\/autismwales.org\/?p=2001"},"modified":"2020-09-29T07:06:33","modified_gmt":"2020-09-29T07:06:33","slug":"llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/","title":{"rendered":"Llywodreath Cymru Newyddion &#8211; Datganiad Ysgrifenedig &#8211; Gwasanaethau Awtistiaeth"},"content":{"rendered":"<h3>Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol<\/h3>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr ymrwymo i wella bywydau plant ac oedolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a&#39;u gofalwyr yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol o&#39;r heriau y mae unigolion ag awtistiaeth a&#39;u teuluoedd yn eu hwynebu&#39;n ddyddiol ac mae&#39;n hanfodol ein bod yn sicrhau y gallant gael y cymorth sydd eu hangen arnynt, ar yr adeg y mae eu hangen arnynt.<\/p>\n<p>Heddiw, rydym wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Strategol Cymru ar gyfer Anhwylderau&rsquo;r Sbectrwm Awtistig ar ei newydd wedd. Mae&#39;n ymateb i&#39;r hyn y mae unigolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a&#39;u gofalwyr wedi dweud sy&#39;n bwysig iddynt. Y nod yw sicrhau bod anghenion oedolion a phlant ag awtistiaeth, eu teuluoedd a&#39;u gofalwyr, yn cael eu deall er mwyn darparu&#39;r cymorth sydd ei angen arnynt i wireddu eu canlyniadau llesiant eu hunain ac i fyw bywydau llawn. Mae&#39;n egluro uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda&#39;i gilydd i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth effeithiol i bobl a phlant ag awtistiaeth.<\/p>\n<p>Cymru oedd y genedl gyntaf yn y DU i fabwysiadu dull cenedlaethol at awtistiaeth, a chyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Strategol gwreiddiol yn 2008. Ers i&#39;r Cynllun Gweithredu Strategol gael ei gyhoeddi, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol i wella bywydau unigolion ag awtistiaeth. Mae ein llwyddiant i godi proffil ac ymwybyddiaeth o anhwylderau&#39;r sbectrwm awtistig yn un enghraifft o hyn. Mae amrywiaeth helaeth o ddeunyddiau ar gael drwy ein gwefan sy&#39;n arbennig ar gyfer anhwylderau&rsquo;r sbectrwm awtistig. Maent yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i unigolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a&#39;u gofalwyr, yn ogystal &acirc; gweithwyr proffesiynol yn y maes, wrth reswm. Cafodd ansawdd ein hadnoddau ei gydnabod yn y gynhadledd Awtistiaeth Ewrop ddiwethaf i gael ei chynnal ym mis Medi ac mae llawer o wledydd wedi gofyn inni am ein caniat&acirc;d i ddefnyddio ein deunyddiau.<\/p>\n<p>Rydym wedi datblygu strwythurau cenedlaethol a lleol sy&#39;n cynnwys sefydlu cydgysylltydd cenedlaethol ac arweinwyr a grwpiau cydlynu anhwylderau&rsquo;r sbectrwm awtistig lleol. Mae hyn wedi helpu i godi&#39;r proffil yn ogystal &acirc; datblygu gwasanaethau gwell a sefydlu gwasanaethau newydd.<\/p>\n<p>Yn &ocirc;l gwerthusiad annibynnol a gynhaliwyd yn 2012, cafodd y strategaeth effaith gadarnhaol ar unigolion, eu teuluoedd, yn ogystal &acirc; gweithwyr proffesiynol. Mae mwy o unigolion sydd ag awtistiaeth wedi cael eu hadnabod ac mae cyfraddau diagnosis wedi cynyddu. Mae&#39;r cymorth y gall plant a phobl ifanc elwa arno mewn addysg hefyd wedi gwella, ac mae&#39;r broses o bontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion hefyd wedi gwella.<\/p>\n<p>Mae&#39;r Cynllun Gweithredu Strategol ar ei newydd wedd yn amlinellu tri maes gweithredu &acirc; blaenoriaeth, yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl wedi&#39;i ddweud wrthym. Yn gyntaf, mae cael elwa ar asesiadau a diagnosis yn brydlon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod anghenion pobl yn cael eu deall a bod gwasanaethau priodol yn cael eu sefydlu i ddarparu&#39;r cymorth angenrheidiol. Bydd diagnosis cynnar hefyd yn galluogi rhieni i ddeall anghenion eu plentyn a chwilio am gymorth priodol yn eu r&ocirc;l ofalu. Mae llawer o unigolion ag awtistiaeth nad ydynt yn cael eu hadnabod neu&#39;n cael diagnosis pan fyddant yn blant ond gallai fod o gymorth iddynt allu cael mynediad at wasanaethau asesu pan fyddant yn oedolion. Rydym am sicrhau bod llwybr asesu safonol ar waith a bydd yna amser aros newydd o 26 o wythnosau o&#39;r cyfnod pan fydd unigolyn yn cael ei atgyfeirio hyd at yr apwyntiad asesu cyntaf. Bydd gwelliannau hefyd i wasanaethau diagnostig i oedolion drwy&#39;r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol.<\/p>\n<p>Yn ail, bydd gan blant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth a&#39;u gofalwyr wahanol anghenion cymorth, gan ddibynnu ar eu hoed a&#39;u gallu. Er enghraifft, mae oedolion ag awtistiaeth yn gallu profi teimladau o orbryder ac arwahanrwydd cymdeithasol. Maent hefyd yn gallu profi anawsterau mewn addysg, a&#39;i chael hi&#39;n anodd dod o hyd i swydd a&#39;i chadw, ac anawsterau hefyd wrth geisio meithrin perthynas a chyfeillgarwch. Mae&#39;r cynllun gweithredu yn cefnogi anghenion y grwpiau hyn i oresgyn rhwystrau o ddydd i ddydd mewn addysg, hyfforddiant, cyflogaeth ac o ran cael mynediad at wasanaethau.<\/p>\n<p>Yn olaf, byddwn yn parhau i weithio gyda&#39;n rhanddeiliaid i nodi bylchau mewn gwybodaeth, cyngor a hyfforddiant. Byddwn yn sicrhau bod unigolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a&#39;u gofalwyr, yn ymwybodol o&#39;r adnoddau sydd ar gael iddynt. Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn rhagor o adnoddau a deunyddiau i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth a darparu hyfforddiant ar draws grwpiau proffesiynol &ndash; yn arbennig i&#39;r grwpiau hynny o bobl ag awtistiaeth sydd wedi dweud wrthym fod angen mwy o ymwybyddiaeth a hyfforddiant. &nbsp;Rydym yn adeiladu ar ein rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer ysgolion cynradd, gan ddatblygu ar adnoddau newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, ysgolion uwchradd ac Addysg Bellach. Rydym yn canolbwyntio hefyd ar hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol ac iechyd meddwl, unigolion sy&#39;n gweithio mewn gwasanaethau hamdden, a chyflogwyr.<\/p>\n<p>Ym mis Ebrill, dechreuwyd cyflwyno&#39;r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol newydd, oedd yn nodi newid pwysig i&rsquo;r ffordd mae gofal a chymorth yn cael eu darparu. Mae&#39;r ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu hwn yn chwarae r&ocirc;l allweddol i wireddu uchelgeisiau&#39;r Cynllun Cyflawni Strategol a bydd yn cael cymorth o &pound;6 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf.<\/p>\n<p>Bydd gan y gwasanaeth integredig arloesol hwn dimau arbenigol newydd ym mhob ardal, a fydd yn darparu gwasanaethau diagnostig i oedolion. Bydd hyn yn cefnogi&#39;r gwelliannau yr ydym yn eu darparu yng nghyd-destun gwasanaethau diagnostig, triniaethau a gwasanaethau cymorth i blant drwy&#39;r rhaglen &#39;Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc&#39;, sy&#39;n cael cymorth o &pound;2 miliwn o gyllid y flwyddyn. Bydd y gwasanaeth yn darparu cymorth a chyngor ehangach ar gyfer plant ac oedolion, yn ogystal &acirc;&#39;u teuluoedd neu ofalwyr. Bydd gweithwyr proffesiynol yn y maes yn gallu cael hyfforddiant a chymorth drwy&#39;r rhaglen hefyd.<\/p>\n<p>Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu drwy bolis&iuml;au a deddfwriaeth newydd i gymryd camau breision mewn perthynas &acirc; gwasanaethau a chymorth i unigolion ag awtistiaeth. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gweddnewid y ffordd yr ydym yn diwallu anghenion pobl gydag anghenion gofal a chymorth yng Nghymru, gan gynnwys unigolion ag awtistiaeth a&#39;u gofalwyr. &nbsp;O ran penderfyniadau am eu gofal a&#39;u cymorth, yr unigolyn sy&rsquo;n ganolog o dan y Ddeddf, ac mae&#39;n rhoi p\u00c5\u00b5er i&#39;r unigolyn ddiffinio ei ganlyniadau ei hun ac yn rhoi ffocws arbennig ar awtistiaeth.<\/p>\n<p>Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a sefydlwyd o dan y Ddeddf honno yn gyfrifol am sicrhau bod mwy o wasanaethau gofal a chymorth integredig i ddiwallu anghenion eu pobl yn eu hardal leol. Mae awtistiaeth wedi cael ei nodi fel un o&#39;r meysydd &acirc; blaenoriaeth ar gyfer integreiddio. Bydd angen i Fyrddau adrodd yn flynyddol ar gynnydd, gan gynnwys mewn perthynas &acirc; darparu&#39;r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol. &nbsp;<\/p>\n<p>Bydd cynllun cyflawni yn cyd-fynd &acirc;&#39;r Cynllun Gweithredu Strategol, a fydd yn amlinellu mwy o fanylion am y camau penodol a fydd yn cael eu cymryd, gan gynnwys sut y byddant yn cael eu mesur a&#39;u monitro. Bydd Gr\u00c5\u00b5p Cynghori ar Weithredu yn cael ei sefydlu i fonitro&#39;r ddarpariaeth a&#39;r cynnydd. Bydd yr aelodau yn cynnwys unigolion ag awtistiaeth, gan gynnwys plant, yn ogystal &acirc;&#39;u rhieni a&#39;u gofalwyr. At hynny, bydd sefydliadau statudol a&#39;r trydydd sector hefyd yn cael eu cynrychioli ar y gr\u00c5\u00b5p.<\/p>\n<p>Bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi i roi&#39;r diweddaraf ar y cynnydd sy&#39;n cael ei wneud a bydd y Cynllun Cyflawni Strategol a&#39;r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol hefyd yn cael eu gwerthuso&#39;n annibynnol.<\/p>\n<p>Rydym am weld gwir wahaniaeth yn y gwasanaethau, gofal a&#39;r cymorth sydd ar gael i unigolion ag awtistiaeth. Rydym yn gwybod y bydd angen amser i gyflawni rhai o&#39;n gwelliannau a&#39;n camau ond byddwn yn monitro ac yn adrodd ar gynnydd.<\/p>\n<p>Rydym wedi ymrwymo i gyflawni&#39;r rhaglen waith hon a byddwn yn parhau i adolygu&#39;r angen am ddeddfwriaeth yn gysylltiedig ag awtistiaeth yn benodol.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/gov.wales\/topics\/health\/socialcare\/asd\/?skip=1&amp;lang=cy\">http:\/\/gov.wales\/topics\/health\/socialcare\/asd\/?skip=1&amp;lang=cy<\/a><\/p>\n<p><strong><u>Atodiad &nbsp;<\/u> <\/strong><\/p>\n<p>Mae&#39;r testun a ganlyn yn amlinellu sut y mae deddfwriaeth a pholis&iuml;au presennol neu arfaethedig yn bodloni&#39;r gofynion a&rsquo;r galwadau am fil awtistiaeth. Mae hyn y cynnwys y ddeddfwriaeth bresennol yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ein cynlluniau ar gyfer diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol a&#39;r gwaith a fydd yn cael ei ddatblygu drwy&#39;r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau&#39;r Sbectrwm Awtistig ar ei newydd wedd a&#39;r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol.<\/p>\n<p>Yng Nghymru, mae ein deddfwriaeth yn gwneud mwy na&#39;r hyn y darperir ar ei gyfer yn Neddf Awtistiaeth Lloegr, gan ei fod yn gynllun i bob oed, yn hytrach nag oedolion yn unig. &nbsp;<\/p>\n<p><em>Dyletswydd i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Awtistiaeth<\/em><br \/>\n&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li>Er nad oes gennym ddeddfwriaeth eisoes yn gysylltiedig &acirc; sefydlu strategaeth awtistiaeth, Cymru oedd y genedl gyntaf i ddatblygu strategaeth, a hynny yn 2008. At hynny, rydym newydd ddatblygu a chyhoeddi&#39;r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau&#39;r Sbectrwm Awtistig ar ei newydd wedd ynghyd &acirc; Chynllun Cyflawni.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n<p>\n<em>Dyletswyddau ar awdurdodau lleol a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) i weithredu o dan gyfarwyddyd<\/em><br \/>\n&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li>I&#39;r graddau y mae&#39;r bil arfaethedig yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG i weithredu dan gyfarwyddyd, nid yw&#39;r rhain yn mynd y tu hwnt i&#39;r dyletswyddau perthnasol yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae gan Weinidogion Cymru y p\u00c5\u00b5er i gyhoeddi cod ar awtistiaeth, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ac mae&#39;n ofynnol i awdurdodau lleol weithredu yn unol ag unrhyw ofynion perthnasol mewn cod.<\/li>\n<\/ul>\n<p>\n<em>Gwasanaethau a llwybrau diagnostig<\/em><br \/>\n&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li>Mae&#39;r Cynllun Gweithredu Strategol yn cynnwys camau penodol i wneud gwelliannau i wasanaethau asesu a diagnostig i blant. Mae&#39;r gwelliannau hyn yn cynnwys rhoi llwybr asesu safonol cenedlaethol ar waith. Bydd yna hefyd darged amser aros newydd o 26 o wythnosau o&#39;r cyfnod pan fydd unigolyn yn cael ei atgyfeirio hyd at ei apwyntiad asesu cyntaf.<\/li>\n<li>Bydd gwelliannau i wasanaethau diagnostig i oedolion yn cael eu cyflwyno drwy&#39;r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys rhoi model cenedlaethol ar waith ar draws Cymru gyfan.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n<p>\n<em>Llywodraethu a Monitro<\/em><br \/>\n&nbsp;<\/p>\n<div>\n<ul>\n<li>Mae&#39;r Cynllun Gweithredu Strategol yn cynnwys camau penodol ar gyfer monitro&#39;r modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae&#39;r rhain yn cynnwys sefydlu Gr\u00c5\u00b5p Cynghori ar Weithredu i fonitro&#39;r cynnydd a&#39;r darparu. At hynny, bydd adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi a fydd yn amlinellu&#39;r cynnydd mewn perthynas &acirc; chamau penodol. Bydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig hefyd yn cael ei werthuso&#39;n annibynnol.<\/li>\n<li>Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) hefyd yn cael ei werthuso.<\/li>\n<\/ul>\n<p>\n<em>Asesu, cymhwysedd a chynllunio<\/em><br \/>\n&nbsp;<\/div>\n<div>\n<ul>\n<li>Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i asesu ar y cyd ofynion gofal a chymorth y boblogaeth, gan gynnwys gofalwyr. Rhaid iddynt bennu&#39;r ystod a&#39;r lefel o wasanaethau ataliol sydd eu hangen i ddiwallu&#39;r anghenion a nodwyd. Mae ein canllawiau i awdurdodau lleol yn datgan yn glir bod rhaid i awtistiaeth fod yn thema graidd yn eu hadroddiad ar anghenion y boblogaeth. &nbsp;<\/li>\n<li>Bydd yr Adroddiadau ar Anghenion y Boblogaeth yn cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2017 a bydd yn ofynnol i ardaloedd ddatblygu Cynllun Ardal. &nbsp;Bydd y rhain yn pennu&#39;r gyfres o wasanaethau ataliol a fydd ar gael, a bydd rhaid iddynt gynnwys gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n<p>\n<em>Hyfforddiant ar gyfer staff sy&#39;n darparu gwasanaethau perthnasol<\/em><br \/>\n&nbsp;<\/div>\n<div>\n<ul>\n<li>Mae&#39;r Cynllun Gweithredu Strategol yn cynnwys camau i ddatblygu a chyflenwi adnoddau a deunyddiau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac eraill sy&#39;n gweithio gyda phlant neu oedolion ag awtistiaeth. Mae&#39;r rhain yn cynnwys pobl sy&#39;n gweithio mewn addysg, iechyd, a gwasanaethau awdurdod lleol fel hamdden a thrafnidiaeth gyhoeddus. &nbsp;<\/li>\n<li>Bydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol yn dod &acirc; staff arbenigol ynghyd, gan gynnwys o&#39;r meysydd seicoleg, therapi lleferydd ac iaith, iechyd galwedigaethol a nyrsio. Bydd yn cynnwys timau cymunedol a fydd yn darparu cymorth un-i-un, yn arbennig ar gyfer oedolion nad ydynt yn gymwys am wasanaethau gofal cymdeithasol.<\/li>\n<li>Yn gynharach yn ystod y flwyddyn, lansiwyd ein rhaglen Dysgu gydag Awtistiaeth ar gyfer ysgolion cynradd, sy&#39;n codi ymwybyddiaeth ar draws y gymuned ysgol gyfan. Rydym yn awr yn gweithio ar raglenni ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, ysgolion uwchradd ac Addysg Bellach.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n<p>\n<em>Cofrestr ar gyfer unigolion ag awtistiaeth<\/em><br \/>\n&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li>O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae&#39;n ofynnol i awdurdodau lleol lunio a chynnal cofrestri gwirfoddol ar gyfer plant anabl, a gallant hefyd lunio cofrestri ar gyfer oedolion anabl. &nbsp;&nbsp;<\/li>\n<li>O fis Ebrill 2017, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu inni ddata blynyddol ar unigolion ag anableddau &acirc; ganddynt gynllun gofal a chymorth. Bydd y data hyn yn cael eu dadansoddi yn &ocirc;l oed ac anabledd, a bydd hyn yn cynnwys awtistiaeth.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n<p>\n<em>Cynllunio ar gyfer pontio o wasanaethau i blant a gwasanaethau i oedolion<\/em><br \/>\n&nbsp;<\/div>\n<ul>\n<li>Mae&#39;r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn Ddeddf i bob oed, felly mae&#39;n mynd i&#39;r afael &acirc; materion yn gysylltiedig &acirc; phontio. Bydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol hefyd yn wasanaeth i bob oed. Mae gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol gyfrifoldeb dros sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chymorth ar gael i ddiwallu anghenion unigolion yn eu hardal leol. Byddant yn sicrhau bod awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol yn gweithio mewn partneriaeth gyda&#39;i gilydd yn effeithiol.&nbsp;<\/li>\n<li>Bydd Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cyflwyno system newydd ar gyfer plant a phobl ifanc a fydd yn sicrhau hawliau teg a threfniadau pontio gwell rhwng lleoliadau.&nbsp;<\/li>\n<\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr ymrwymo i wella bywydau plant ac oedolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a&#39;u gofalwyr yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol o&#39;r heriau y mae unigolion ag awtistiaeth a&#39;u teuluoedd yn eu hwynebu&#39;n ddyddiol ac mae&#39;n hanfodol ein bod yn sicrhau y gallant gael [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[24,5],"tags":[],"class_list":["post-2001","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-newyddion","category-uncategorized-cy"],"acf":[],"yoast_head":"<!-- This site is optimized with the Yoast SEO plugin v27.6 - https:\/\/yoast.com\/product\/yoast-seo-wordpress\/ -->\n<title>Llywodreath Cymru Newyddion - Datganiad Ysgrifenedig - Gwasanaethau Awtistiaeth - Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team<\/title>\n<meta name=\"robots\" content=\"index, follow, max-snippet:-1, max-image-preview:large, max-video-preview:-1\" \/>\n<link rel=\"canonical\" href=\"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:locale\" content=\"cy_GB\" \/>\n<meta property=\"og:type\" content=\"article\" \/>\n<meta property=\"og:title\" content=\"Llywodreath Cymru Newyddion - Datganiad Ysgrifenedig - Gwasanaethau Awtistiaeth - Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team\" \/>\n<meta property=\"og:description\" content=\"Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr ymrwymo i wella bywydau plant ac oedolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a&#039;u gofalwyr yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol o&#039;r heriau y mae unigolion ag awtistiaeth a&#039;u teuluoedd yn eu hwynebu&#039;n ddyddiol ac mae&#039;n hanfodol ein bod yn sicrhau y gallant gael [&hellip;]\" \/>\n<meta property=\"og:url\" content=\"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/\" \/>\n<meta property=\"og:site_name\" content=\"Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team\" \/>\n<meta property=\"article:published_time\" content=\"2016-11-30T07:06:33+00:00\" \/>\n<meta property=\"article:modified_time\" content=\"2020-09-29T07:06:33+00:00\" \/>\n<meta name=\"author\" content=\"Oxygen Agency\" \/>\n<meta name=\"twitter:card\" content=\"summary_large_image\" \/>\n<meta name=\"twitter:label1\" content=\"Written by\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data1\" content=\"Oxygen Agency\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:label2\" content=\"Est. reading time\" \/>\n\t<meta name=\"twitter:data2\" content=\"12 minutes\" \/>\n<script type=\"application\/ld+json\" class=\"yoast-schema-graph\">{\"@context\":\"https:\\\/\\\/schema.org\",\"@graph\":[{\"@type\":\"Article\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/news\\\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\\\/#article\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/news\\\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\\\/\"},\"author\":{\"name\":\"Oxygen Agency\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/f159a9a97d665d684c937c341b0de29d\"},\"headline\":\"Llywodreath Cymru Newyddion &#8211; Datganiad Ysgrifenedig &#8211; Gwasanaethau Awtistiaeth\",\"datePublished\":\"2016-11-30T07:06:33+00:00\",\"dateModified\":\"2020-09-29T07:06:33+00:00\",\"mainEntityOfPage\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/news\\\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\\\/\"},\"wordCount\":2364,\"commentCount\":0,\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/#organization\"},\"articleSection\":[\"Newyddion\",\"Uncategorized @cy\"],\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"CommentAction\",\"name\":\"Comment\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/news\\\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\\\/#respond\"]}]},{\"@type\":\"WebPage\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/news\\\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/news\\\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\\\/\",\"name\":\"Llywodreath Cymru Newyddion - Datganiad Ysgrifenedig - Gwasanaethau Awtistiaeth - Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team\",\"isPartOf\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/#website\"},\"datePublished\":\"2016-11-30T07:06:33+00:00\",\"dateModified\":\"2020-09-29T07:06:33+00:00\",\"breadcrumb\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/news\\\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\\\/#breadcrumb\"},\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"potentialAction\":[{\"@type\":\"ReadAction\",\"target\":[\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/news\\\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\\\/\"]}]},{\"@type\":\"BreadcrumbList\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/news\\\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\\\/#breadcrumb\",\"itemListElement\":[{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":1,\"name\":\"Hafan\",\"item\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/\"},{\"@type\":\"ListItem\",\"position\":2,\"name\":\"Llywodreath Cymru Newyddion &#8211; Datganiad Ysgrifenedig &#8211; Gwasanaethau Awtistiaeth\"}]},{\"@type\":\"WebSite\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/#website\",\"url\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/\",\"name\":\"Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team\",\"description\":\"\",\"publisher\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/#organization\"},\"potentialAction\":[{\"@type\":\"SearchAction\",\"target\":{\"@type\":\"EntryPoint\",\"urlTemplate\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/?s={search_term_string}\"},\"query-input\":{\"@type\":\"PropertyValueSpecification\",\"valueRequired\":true,\"valueName\":\"search_term_string\"}}],\"inLanguage\":\"cy-GB\"},{\"@type\":\"Organization\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/#organization\",\"name\":\"Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team\",\"url\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/\",\"logo\":{\"@type\":\"ImageObject\",\"inLanguage\":\"cy-GB\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\",\"url\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/NeurodivergenceWales_Logo_2024.png\",\"contentUrl\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/wp-content\\\/uploads\\\/2022\\\/03\\\/NeurodivergenceWales_Logo_2024.png\",\"width\":3516,\"height\":4514,\"caption\":\"Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team\"},\"image\":{\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/logo\\\/image\\\/\"}},{\"@type\":\"Person\",\"@id\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/#\\\/schema\\\/person\\\/f159a9a97d665d684c937c341b0de29d\",\"name\":\"Oxygen Agency\",\"url\":\"https:\\\/\\\/neurodivergencewales.org\\\/cy\\\/news\\\/author\\\/oxygenagency\\\/\"}]}<\/script>\n<!-- \/ Yoast SEO plugin. -->","yoast_head_json":{"title":"Llywodreath Cymru Newyddion - Datganiad Ysgrifenedig - Gwasanaethau Awtistiaeth - Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team","robots":{"index":"index","follow":"follow","max-snippet":"max-snippet:-1","max-image-preview":"max-image-preview:large","max-video-preview":"max-video-preview:-1"},"canonical":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/","og_locale":"cy_GB","og_type":"article","og_title":"Llywodreath Cymru Newyddion - Datganiad Ysgrifenedig - Gwasanaethau Awtistiaeth - Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team","og_description":"Rebecca Evans Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr ymrwymo i wella bywydau plant ac oedolion ag awtistiaeth, eu teuluoedd a&#39;u gofalwyr yng Nghymru. Rydym yn ymwybodol o&#39;r heriau y mae unigolion ag awtistiaeth a&#39;u teuluoedd yn eu hwynebu&#39;n ddyddiol ac mae&#39;n hanfodol ein bod yn sicrhau y gallant gael [&hellip;]","og_url":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/","og_site_name":"Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team","article_published_time":"2016-11-30T07:06:33+00:00","article_modified_time":"2020-09-29T07:06:33+00:00","author":"Oxygen Agency","twitter_card":"summary_large_image","twitter_misc":{"Written by":"Oxygen Agency","Est. reading time":"12 minutes"},"schema":{"@context":"https:\/\/schema.org","@graph":[{"@type":"Article","@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/#article","isPartOf":{"@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/"},"author":{"name":"Oxygen Agency","@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/#\/schema\/person\/f159a9a97d665d684c937c341b0de29d"},"headline":"Llywodreath Cymru Newyddion &#8211; Datganiad Ysgrifenedig &#8211; Gwasanaethau Awtistiaeth","datePublished":"2016-11-30T07:06:33+00:00","dateModified":"2020-09-29T07:06:33+00:00","mainEntityOfPage":{"@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/"},"wordCount":2364,"commentCount":0,"publisher":{"@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/#organization"},"articleSection":["Newyddion","Uncategorized @cy"],"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"CommentAction","name":"Comment","target":["https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/#respond"]}]},{"@type":"WebPage","@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/","url":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/","name":"Llywodreath Cymru Newyddion - Datganiad Ysgrifenedig - Gwasanaethau Awtistiaeth - Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team","isPartOf":{"@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/#website"},"datePublished":"2016-11-30T07:06:33+00:00","dateModified":"2020-09-29T07:06:33+00:00","breadcrumb":{"@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/#breadcrumb"},"inLanguage":"cy-GB","potentialAction":[{"@type":"ReadAction","target":["https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/"]}]},{"@type":"BreadcrumbList","@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/llywodreath-cymru-newyddion-datganiad-ysgrifenedig-gwasanaethau-awtistiaeth\/#breadcrumb","itemListElement":[{"@type":"ListItem","position":1,"name":"Hafan","item":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/"},{"@type":"ListItem","position":2,"name":"Llywodreath Cymru Newyddion &#8211; Datganiad Ysgrifenedig &#8211; Gwasanaethau Awtistiaeth"}]},{"@type":"WebSite","@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/#website","url":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/","name":"Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team","description":"","publisher":{"@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/#organization"},"potentialAction":[{"@type":"SearchAction","target":{"@type":"EntryPoint","urlTemplate":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/?s={search_term_string}"},"query-input":{"@type":"PropertyValueSpecification","valueRequired":true,"valueName":"search_term_string"}}],"inLanguage":"cy-GB"},{"@type":"Organization","@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/#organization","name":"Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team","url":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/","logo":{"@type":"ImageObject","inLanguage":"cy-GB","@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/","url":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/NeurodivergenceWales_Logo_2024.png","contentUrl":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/wp-content\/uploads\/2022\/03\/NeurodivergenceWales_Logo_2024.png","width":3516,"height":4514,"caption":"Niwrowahaniaeth Cymru | Neurodivergence Wales | National Neurodivergence Team"},"image":{"@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/#\/schema\/logo\/image\/"}},{"@type":"Person","@id":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/#\/schema\/person\/f159a9a97d665d684c937c341b0de29d","name":"Oxygen Agency","url":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/news\/author\/oxygenagency\/"}]}},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2001","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=2001"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2001\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":2185,"href":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/2001\/revisions\/2185"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=2001"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=2001"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/neurodivergencewales.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=2001"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}