Sut y gall lleoliadau profiad gwaith rymuso pobl awtistig sy’n chwilio am waith

Actions and outcomes

Mae hunanatgyfeiriad diweddar i Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru wedi arwain at unigolyn, Y, mewn lleoliad gwaith llwyddiannus. Yn dilyn brysbennu cychwynnol gyda Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru, galwodd gweithiwr cefnogi yr unigolyn i’r ganolfan cynghori IAS i ddechrau gweithio ar ganlyniadau Y. Cyfeiriodd y gweithiwr cefnogi Y i gwrs gemau cyfrifiadurol, wedi’i arwain gan Hyfforddiant Gogledd Cymru (NWT) – cymhwyster mewn technoleg gwybodaeth sy’n galluogi’r unigolyn i sefydlu tudalennau gwe a chreu gemau – gan fod yr unigolyn eisiau gweithio o fewn y diwydiant gemau.  Aeth y gweithiwr cefnogi IAS gyda Y i’r cyrsiau cyntaf, gan annog Y i deithio ar y bws yn annibynnol i’r NWT. Nid oedd Y yn gweld perthnasedd y cwrs o ran cyflogaeth, ac felly yn dilyn trafodaethau gyda NWT, trefnwyd lleoliad profiad gwaith ar gyfer Y gyda Poundstretcher yn yr Wyddgrug.

Feedback

Dyma oedd gan y darparwr dysgu seiliedig ar waith i’w ddweud: “Bownsiodd Y drwy’r drws ac ni allai gymryd y wên oddi ar ei wyneb drwy gydol y cyfweliad. Mae wrth ei fodd yn y siop Poundstretcher, mae’r rheolwr a’r staff yn ei helpu ac yn gwneud y profiad yn un pleserus i Y. Mae’n fwy gobeithiol am ddod o hyd i waith ar ddiwedd y profiad gwaith (04/12/2019). Nid wyf wedi gweld Y mor gadarnhaol a hyn ers iddo fod ar fy llwyth achosion. Gyda chefnogaeth barhaus a pharodrwydd Y i ymgysylltu, rwy’n hyderus fydd Y yn dod o hyd i swydd sy’n ei weddu.”

Lessons Learned

Fe wnaeth y cwrs hyfforddi gydag NWT, ymgysylltu Y a rhoi hyder iddo ddod o hyd i waith a bod yn annibynnol. Cyn hyn, roedd Y yn unigolyn mewnblyg ac nid oedd yn gadael ei gartref. Mae bywyd Y wedi newid yn gyfan gwbl drwy’r ymyraethau hyn.

Information

n/a
Local Authority:
Sir y Fflint
n/a
Categories