Gwobr dysgu gydag awtistiaeth i leoliadau blynyddoedd cynnar

Mae’r Rhaglen Dysgu am Awtistiaeth yn ffordd o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am anghenion disgyblion awtistig trwy’r lleoliad cyfan.  Gallwch chi gyflwyno cais am eich gwobr trwy lenwi’r ffurflen isod gan ofalu bod:

  • yr holl staff Blynyddoedd Cynnar wedi cwblhau’r cynllun tystysgrif i staff;
  • yr holl staff cefnogi eraill (gan gynnwys staff gweinyddu ac arlwyo) wedi cwblhau’r Cynllun ‘Ymwybodol o Awtistiaeth’;
  • y rhan fwyaf o blant wedi gwylio ‘Teifi a’i Ffrindiau’;
  • arferion wedi newid yn eich lleoliad.

Rydym yn gallu gwirio faint sydd wedi cwblhau’r cynlluniau yn eich lleoliad.  Pan fydd y rhan fwyaf neu bawb o’ch lleoliad wedi cwblhau’r cynllun, byddwn ni’n cyhoeddi eich tystysgrif ac yn ychwanegu enw’r lleoliad at ein cronfa ddata.

Chwilio am lawrlwythiadau?

I weld pa leoliadau sydd wedi cwblhau’r wobr Dysgu am Awtistiaeth, cliciwch ar y ddolen isod.