Gweld ein ffilm ragarweiniol fer, cyflwyno’r rhaglen ‘Dysgu am Awtistiaeth’ ac amlygu’r fantais o wneud addasiadau i ddisgyblion awtistig, gan gynnwys lleihau ymddygiad heriol a chynyddu cyrhaeddiad:

Ysgolion Cymru i gysylltu â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer eu hysgol unigol cyn ymgymryd â’r rhaglen Dysgu am Awtistiaeth. Bydd creu’r cyfrifon defnyddwyr unigryw yn helpu ysgolion i fonitro eu cynnydd, a bydd hefyd yn arbed amser gan na fydd angen i unigolion greu eu cyfrifon defnyddwyr eu hunain i gwblhau’r cynlluniau ardystiedig.