Bu Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru yn rhan o’r broses o asesu SK, ac yna cynigwyd cymorth ôl ddiagnosis i helpu i reoli gorbryder a chael mynediad at gyflogaeth. Roedd y cymorth yn cynnwys creu cymorthyddion cyfathrebu, gweithio ar strategaethau i reoli gorbryder, yn ogystal â chefnogi partner yr unigolyn i helpu i weithredu’r strategaethau a ddarparwyd.
Bellach mae’r unigolyn a’u partner mewn cyflogaeth. Mae SK yn defnyddio amserlen â strwythur ac hefyd yn rheoli eu gorbryder gan ddefnyddio’r strategaethau a ddarparwyd. Mae cymorthyddion cyfathrebu a strategaethau sgiliau cymdeithasol hefyd wedi eu rhoi yn eu lle i gefnogi SK o fewn y gweithle. Mae SK bellach yn gweithio fel derbynnydd, sydd yn gamp arbennig o ystyried fod cyfathrebu yn un o’r meysydd cefnogi a dargedwyd.