Mae Kevin Jones, Dietegydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) yn darparu hyfforddiant i wasanaethau’r trydydd sector yn lleol sydd yn gweithio gyda phobl awtistig a gyda diddordeb mewn gwella eu gwybodaeth am fwyd a maeth i gefnogi’r cleientiaid hyn.
Cynigwyd 12 lle i nifer o wasanaethau yn y trydydd sector. Roedd heriau gyda rhannu’r wybodaeth ar draws ystod eang o wasanaethau’r trydydd sector a fyddai o bosib wedi cyfrannu at y nifer isel o dderbyniadau yn y lle cyntaf ar gyfer cwrs. Cafodd ei gydnabod fod yr amseriad o bosib wedi cyfrannu at y nifer isel o dderbyniadau hefyd. Felly dyma’r IAS yn newid diwrnod ac amser y cwrs ac mae’r niferoedd bellach wedi cynyddu i 11 o fynychwyr. Mae’r staff sy’n mynychu’r cwrs yn cynnwys Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, Eglwys Glenwood, Technegydd Ffisiotherapi Anableddau Dysgu Caerdydd a’r Fro, Gweithiwr Cymunedol IAS, Barnados a gofalwr maeth. Roedd staff o wasanaeth Sbectrwm Awtistig Cysylltu dros Gymru yn fod i fynychu hefyd. Cynhelir y cwrs 10 wythnos yn Eglwys Glenwood. Drwy gwblhau’r cwrs bydd y mynychwyr yn ennill Achrediad Lefel 2 gydag Agored Cymru yn defnyddio adnoddau Nutrition skills for life TM wedi’u haddasu.
Nod y cwrs yw rhoi gwybod am ymyraethau un-i-un gyda phobl y mae’r staff yn eu cefnogi. Y gobaith yw bydd staff yn magu hyder wrth wneud gwaith fel sgiliau bywyd, bwyta iach sylfaenol, cynllunio prydau, clustnodi arian ar gyfer siopa bwyd a chwalu unrhyw gamsyniadau am fwyd a maeth.
Gwaith penodol wedi’i gynllunio ar ôl cwblhau’r cwrs yn cynnwys:
- Mae’r Technegydd Ffisiotherapi sy’n gweithio gyda gwasanaethau Anableddau Dysgu yn mynd i beilota grŵp maetheg a gweithgareddau corfforol.
- Mae Eglwys Glenwood yn mynd i redeg grŵp coginio yn arbennig ar gyfer pobl ag awtistiaeth.
Maen nhw wedi cael cynnig cefnogaeth gan Ddietegydd IAS sydd yn gallu cynnig ymgynghoriad, adnoddau ac argymhellion. Bydd y IAS yn cyfeirio cleientiaid i’r adnodd newydd hwn.