Roedd P wedi mynychu sgwrs ragarweiniol am y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella, Bae Colwyn. Roedd P wedi’i phlesio gan ein gwasanaeth a sut rydym yn cefnogi unigolion gyda diagnosis awtistiaeth, felly penderfynodd fynychu canolbwynt cyngor i gael mwy o wybodaeth.
Mae gan P ddau ŵyr awtistig. Mae merch P yn rhiant sengl ac mae’r teulu yn ei chael hi’n anodd fel teulu un rhiant i ymdopi gydag ymddygiad y plant. Mae ganddynt ddealltwriaeth gyfyngedig o awtistiaeth hefyd. Mae P yn cefnogi ei merch gymaint ag y gall gyda’i phlant ac mae ei wyrion yn aros gyda hi yn rheolaidd.
Yn ein cyfarfod, roeddem wedi trafod strategaethau ar gyfer ymdopi gydag ymddygiad anodd gyda P. Roedd strategaethau a drafodwyd yn cynnwys:
- Defnyddio byrddau stori a stripiau comig i egluro sefyllfaoedd, emosiynau ac ymddygiad yn weledol i’r person ifanc.
- Defnyddio cardiau cyfathrebu i ddangos teimladau ac emosiynau (yn arbennig eu defnyddioldeb yn yr ysgol).
- Cael lle tawel pan fydd y person ifanc yn dod adref o’r ysgol cyn rhyngweithio sy’n caniatáu iddynt brosesu’r diwrnod.
- Defnyddio plygiau clustiau a sbectols haul i gefnogi anawsterau synhwyraidd.
- Cyflwyno amseryddion ar gyfer gweithgareddau i greu ffiniau y gellir eu dilyn.
- Defnyddio amserlenni gweledol drwy’r flwyddyn i gynllunio digwyddiadau ymlaen llaw i gynnal strwythur mewn bywyd bob dydd.
- Defnyddio jar gwobrwyo gweledol i hybu ymddygiad cadarnhaol.
Roeddem hefyd yn cyfeirio cefnogaeth i’r teulu fel:
- Gofyn am asesiad gan y Gweithiwr Cymdeithasol.
- Gofyn am gefnogaeth gan y gweithwyr teulu lleol ar gyfer Asesu Gofalwr.
- Cysylltu â’r Cydlynydd ADY yn yr ysgol am gefnogaeth.
Cysylltu â S.N.A.P i gefnogi anghenion addysgol ac addasiadau rhesymol.