Cefnogi rhiant i reoli ymddygiad plentyn

Actions and outcomes

Cefais gyfarfod gyda C sydd yn rhiant i bedwar o blant. Mae plentyn hynaf C wedi derbyn diagnosis o awtistiaeth. Mae ymddygiad merch C yn y cartref yn mynd y tu hwnt i reolaeth ac yn effeithio yn negyddol ar fywyd y teulu. Nid yw ysgol merch C wedi rhoi gwybod am unrhyw broblemau ymddygiad. Roedd C yn teimlo nad oedd ysgol C yn gefnogol ac roedd yn ei chael hi’n anodd cyfathrebu gyda nhw. Awgrymais fod C yn cysylltu â S.N.A.P. Cymru i gael cefnogaeth ac arweiniad ar y mater hwn.

 

Mae ymddygiad merch C wedi cynnwys gweiddi a defnyddio iaith ymosodol tuag at C a phlant iau C. Mae gan ferch C faterion synhwyraidd hefyd sy’n gwneud ymolchi yn anodd gan arwain at hylendid gwael ac esgeuluso ei hunanofal yn gyffredinol. Dywedodd C wrthyf ei bod yn teimlo nad yw’n gallu ymdopi mwyach ac mae’n derbyn cefnogaeth gan y meddyg ar gyfer iselder. Dywedodd C ei bod yn teimlo weithiau nad yw’n gallu bod yn yr un ystafell â’i merch a bod perthynas o fewn ei theulu ar fin chwalu. Nid yw C yn siŵr pwy ddylai droi atynt na ble i gael cefnogaeth.

 

Siaradais gydag C am y dewisiadau o ran cefnogaeth a rhoddais fanylion  Un Pwynt Mynediad i C.  Eglurais oherwydd bod y teulu yn ymylu at argyfwng, byddai Un Pwynt Mynediad yn gallu cynnig cefnogaeth arbenigol i’r teulu. Awgrymais efallai bod C yn gofyn am asesiad gofalwr ac/neu asesiad gweithiwr cymdeithasol. Cyfeiriais C i gysylltu â’i meddyg teulu i gefnogi hyn.

 

Hefyd, trafodais strategaethau y gallai C eu defnyddio i gefnogi anawsterau synhwyraidd ei merch. Eglurais y strategaethau ymolchi synhwyraidd a ddarperir gan y gwasanaeth cefnogi awtistiaeth integredig.

 

Hefyd, awgrymais ddefnyddio siart ABC Awtistiaeth Cymru i fonitro ymddygiad a sylwi ar unrhyw batrymau ymddygiad sy’n digwydd. Mae C am lunio llyfr cyfathrebu iddi hi a’i merch yn unig i hybu cyfathrebu rhwng y ddwy ohonynt.  Hefyd, awgrymais y gallai C ddefnyddio jar gwobrwyo gyda’i merch i hybu ymddygiad cadarnhaol.

Feedback

Ar ôl cyfarfod gydag C, cysylltodd â mi eto i roi gwybod imi am y cynnydd yr oedd wedi’i wneud gyda’i merch. Roedd wedi defnyddio’r holl strategaethau y soniais amdanynt ac maent wedi gwella ei pherthynas gyda’i merch yn fawr iawn ac wedi gwneud bywyd teulu yn llawer gwell. Dywedodd C nad yw’n gallu diolch digon i ni.

Roedd C hefyd wedi cysylltu â S.N.A.P. i’w chefnogi yn yr ysgol. Mae C hefyd yn derbyn asesiad gweithiwr cymdeithasol a gofalwyr.

Mae cyfathrebu wedi gwella yn fawr iawn rhwng C a’i merch. Mae C a’i merch yn defnyddio’r llyfr cyfathrebu i helpu i leddfu unrhyw densiynau ym mywyd y teulu.

Mae C yn teimlo’n llai rhwystredig ac yn teimlo ei bod yn cael mwy o gefnogaeth. Roedd C yn ymddangos yn llawer tawelach yn yr alwad ffôn ddilynol ac roedd ei hagwedd yn ymddangos yn llawer mwy cadarnhaol. Mae C nawr yn teimlo ei bod yn derbyn cefnogaeth ac mae’n gwybod fod ganddi’r gefnogaeth mae’n ei gwerthfawrogi’n fawr gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.

Lessons Learned

I werthuso sefyllfaoedd sy’n gymhleth iawn weithiau fel y gallwn ddod o hyd i’r llwybr cywir ymlaen. Mae’n bwysig gwrando ar y cleient a’u cyfeirio i wasanaethau eraill ble bo’r angen, ond hefyd darparu strategaethau a chefnogaeth i ddeall yr anawsterau sy’n gallu digwydd pan fydd rhywun yn byw gydag awtistiaeth. Mae mor bwysig bod pob cleient unigol yn teimlo bod rhywun wedi gwrando arnyn nhw. Wrth symud ymlaen, byddwn yn gwneud hyn drwy edrych yn ôl ar y cleient yn ein cyfarfodydd.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories