Cefnogi unigolyn awtistig ag atal dweud i gael mynediad at ei Feddygfa

Actions and outcomes

Mae Tîm Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Powys wedi helpu LK, sy’n dioddef o awtistiaeth ac atal dweud, i gael mynediad at ei meddyg teulu. Roedd LK yn ei chael hi’n anodd trefnu i gyfarfod â’i Meddyg Teulu gan fod y feddygfa yn defnyddio system sy’n golygu ffonio i drefnu apwyntiadau.  Bob tro yr oedd LK yn ffonio’r feddygfa, nid oedd yn gallu siarad, a byddai’r gweithiwr ar ochr arall y ffôn yn dweud “sori, nid wyf yn gallu eich clywed chi” ac yn rhoi’r ffôn i lawr. Fe wnaeth gweithiwr cefnogi o Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Powys ffonio’r feddygfa i egluro’r broblem. Gofynnodd i’r feddygfa a oedd modd iddynt roi nodyn ar ffeil LK i egluro fod ganddi atal dweud a’i bod yn cael trafferth rhyngweithio dros y ffôn. Fe wnaeth y gweithiwr cefnogi hefyd drefnu i ddoctor ffonio LK yn uniongyrchol, er mwyn iddi gael trafod beth sy’n ei phoeni. Awgrymodd y doctor y gallai LK enwebu ei chwaer fel cyswllt er mwyn iddi allu helpu LK yn y dyfodol pan fydd yn ffonio’r feddygfa.

Feedback

Nodyn gan LK – “Rwy’n hynod o falch fod fy ngweithiwr cefnogi wedi gwneud trefniadau â’r doctor i mi. Nid oeddwn wedi llwyddo i siarad â’r doctor ers dros chwe mis. Bydd yn rhaid i’m chwaer lenwi’r ffurflen iddi gael ffonio ar fy rhan, ond os bydd angen i mi eu ffonio nhw rhywbryd, rwy’n gobeithio y byddant yn gallu aros imi siarad cyn iddynt roi’r ffôn i lawr yn y dyfodol.”

Lessons Learned

Weithiau, gall unigolion ymddangos fel nad oes arnynt angen cefnogaeth neu gymorth, ond mae’n bwysig sicrhau bod ein cleientiaid yn derbyn y gefnogaeth a’r ymyrraeth gywir i’w helpu i fyw mor annibynnol â phosibl a bod asiantaethau eraill yn gwneud addasiadau i alluogi hyn. Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio ar y cyd er mwyn cyflawni hyn.

Information

n/a
Local Authority:
Powys
n/a
Categories