Mae tri grŵp llesiant wedi’u treialu mewn tair ysgol uwchradd. Roedd y disgyblion a fynychodd:
- Mewn perygl o beidio â mynychu’r ysgol neu ddim yn mynychu ar hyn o bryd.
- Disgyblion â phryder sy’n effeithio ar eu gallu i ymdopi yn yr ysgol.
- Yn meddu ar anawsterau awtistiaeth a / neu gyfathrebu cymdeithasol.
Cyflwynodd y rhaglen ddeuddeg sesiwn a oedd â’r nod o wella hunan-barch, dysgu rhai strategaethau lleihau pryder hunangymorth ac ymarfer sgiliau cymdeithasol.
Nodau’r rhaglen oedd:
- Nodi cryfderau, hoff bethau a chas bethau unigolyn – bydd hyn yn helpu i gynyddu hunan-barch. Bydd disgyblion yn fwy tebygol o ymgysylltu â gweithgareddau pleserus, cynhyrchiol. Bydd yn cynorthwyo i osod nodau a chymhelliant.
- Gwella’r gallu i nodi, trafod ac archwilio emosiynau a theimladau sy’n gysylltiedig â phryder – bydd hyn yn helpu disgyblion i hunanreoleiddio ac ymateb i sefyllfaoedd yn fwy cadarnhaol. Bydd disgyblion yn fwy abl i adnabod eu teimladau.
- Technegau ymlacio – bydd gan ddisgyblion dechnegau i’w defnyddio i’w helpu i dawelu eu hunain.
- Ymarfer Sgiliau Cymdeithasol – bydd hyn yn helpu disgyblion i ddod yn fwy hyderus yn eu rhyngweithio cymdeithasol ac yn fwy abl i wneud a chynnal cyfeillgarwch a pherthnasoedd cymdeithasol.
- Datblygu gallu i ddatrys problemau yn annibynnol – bydd hyn yn helpu i gynyddu hunan-barch a hunan-effeithiolrwydd. Bydd disgyblion yn teimlo wedi’u grymuso i fynd i’r afael â heriau a rhoi cynnig ar brofiadau newydd.
Defnyddiwyd Graddfa Lles Plant Stirling fel mesur.