Hon oedd yr ail ymyrraeth i M ei chael dros y flwyddyn ddiwethaf. Cafodd ein ymyrraeth gyntaf ei thorri’n fyr oherwydd COVID-19. Ail-gydiwyd yn y gwaith gyda’n gilydd yn yr ail ymyrraeth trwy sefydlu:
- Apwyntiadau dros y rhyngrwyd i gwblhau seren ganlyniad M ac i nodi nodau.
- Cyfarfodydd dros y rhyngrwyd i drafod y cyfrifoldeb cymdeithasol o ofalu am dŷ, glanhau ac ati.
- Cyflwyniad i Dungeons and Dragons – ar-lein gydag asiantaeth allanol.
- Cyflwyniad i Grŵp Cymdeithasol y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.
- Cyfarfodydd dros y rhyngrwyd i drafod gorbryder cymdeithasol.
- Cwrs Rheoli Amser a Lles dros y Rhyngrwyd (Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig).
- Sesiwn Cerdded a Siarad i drafod y cam nesaf i M a rheoli gorbryder; ystyried atgyfeirio i Autism Spectrum Connections Cymru (ASCC) ac ystyried cefnogaeth i wella cyfathrebu.
Roedd y prif gynllun gweithredu o’r seren ganlyniad yn canolbwyntio ar ‘reoli amser a gweithgareddau’. Er i ni dreulio ychydig o sesiynau yn edrych ar orbryder cymdeithasol a strategaethau i oresgyn hyn – teimlaf y bydd modd i M wella’r maes hwn unwaith y bydd cyfyngiadau Cymru wedi llacio a phan all ddychwelyd at y gweithgareddau y mae’n eu mwynhau, fel gwirfoddoli.