Cefais gyfarfod A yn un o’n sesiynau galw heibio yng Nghanolfan Waith Pont-Y-Pŵl yng Ngorffennaf 2019. Mynychodd A y Ganolfan Waith gyda’i fam ac roedd yn chwilio am gefnogaeth gyda chyflogaeth. Roedd A wedi cael ei ddisgyblu am ymddygiadau cymdeithasol amhriodol yn y gweithle. O ganlyniad i hyn roedd A mewn perygl o golli ei swydd. Mae A yn awtistig ac wedi derbyn ei ddiagnosis fel plentyn.
Gweithiais yn rheolaidd gyda A am gyfnod o chwe mis. Darparwyd yr ymyraethau canlynol:
- Cwrs SAFE i ddynion. Mae’r cwrs wedi darparu A gydag addysg ar berthnasau iach a diogel.
- Cwrs Ôl-Ddiagnostig. Helpodd y cwrs yma i A ddysgu mwy am ei awtistiaeth ac i ennill dealltwriaeth well o sut y mae’n ei effeithio a pham.
- Rhaglen Gleifion Addysg Awtistiaeth benodol. Mae’r cwrs hwn wedi helpu A i edrych ar ddatrys problemau mewn ffordd wahanol drwy adnabod nod a’i dorri’n gamau bychain y gellir eu cyflawni. O ganlyniad mae A wedi magu hyder.
- Cwrs Lles. Mae wedi helpu A i ystyried ffyrdd y gall wella ei les a darparu rhai strategaethau ymdopi i wneud hynny.
- Creu proffil unigolyn ag Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig. Helpodd A i gyfathrebu ei anghenion i’w gyflogwr. Helpodd ei gyflogwr i ddeall yn well a sut y gallan nhw gefnogi A yn effeithiol.
- Cefnogaeth i gael mynediad i addasiadau rhesymol yn y gweithle.
- Cefnogaeth ar y ffôn gan weithiwr ar ddyletswydd. Helpodd hyn A i reoli sefyllfaoedd wrth iddyn nhw godi yn y gwaith.
- Cefnogaeth 1:1 rheolaidd gyda gweithiwr cefnogi. Helpodd hyn i fonitro cynnydd A.
- Cefnogaeth dros y ffôn gan Mam.
Mae canlyniadau’r ymyraethau hyn wedi eu mesur trwy’r Seren Canlyniadau. Cafodd yr ymyraethau hyn effaith bositif sylweddol ar les A, fel y gwelir ar ei daflen Seren Canlyniadau amgaeedig.