Cafodd G ddiagnosis o awtistiaeth ar ddechrau 2020 ond roedd yn ansicr ynglŷn â beth oedd ei ddiagnosis yn ei olygu a sut oedd awtistiaeth yn effeithio arno. Ychydig o anawsterau oedd G yn eu cael ar y pryd ac roedd yn ansicr a oedd y problemau hyn yn gysylltiedig ag awtistiaeth, ynteu ymddygiadau a ddatblygodd tra roedd yn y fyddin.
Fel man cychwyn, fe gwblhaom broffil awtistiaeth i helpu G i ddeall pam ei fod yn ymddwyn y ffordd y mae’n ymddwyn ambell waith. Helpodd y proffil ef i esbonio’r ymddygiadau hyn i eraill, ac i gyfathrebu gydag eraill ynglŷn â’r ffordd orau iddyn nhw ei gefnogi.
Mynychodd G hefyd ein Cwrs Ôl-ddiagnosis dros y Rhyngrwyd i’w helpu i ddeall ei awtistiaeth ac i’w rymuso trwy roi gwybod iddo nad yw ar ei ben ei hun. Cynigais le i’w bartner ar y Cwrs Ôl-ddiagnosis i Rieni a Gofalwyr hefyd, ond dewisodd beidio â chymryd rhan ynddo.
Dywedodd G hefyd ei fod yn cael anhawster gwneud penderfyniadau a rhoi pethau mewn trefn, a oedd yn effeithio ar ei fusnes. Byddai G yn trefnu dau apwyntiad ar yr un pryd ac yn gweithio nes ei fod wedi diffygio. Cyflwynom lyfr cynllunio i’w gynorthwyo â hyn. Mynychodd G gwrs EPP hefyd i’w helpu â chynllunio a threfnu, meithrin ei hyder i wneud penderfyniadau a gwella ei sgiliau datrys problemau i’w alluogi i osod nodau realistig. Mynychodd G y cwrs Rheoli Amser a Gwella Lles hefyd ond nid oedd yn teimlo bod y cwrs yn iawn iddo ef, felly gadawodd y cwrs ar ôl pythefnos o’r cwrs pump wythnos.
Cefnogais G i wneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) hefyd trwy gyflenwi gwybodaeth ategol ac arweiniad a ddatblygwyd o fewn y gwasanaeth i’w helpu i lenwi’r ffurflen gais.
Derbyniodd G gefnogaeth 1:1 hefyd gyda sgriptiau i’w gefnogi â sgyrsiau priodol.
Darparwyd cefnogaeth 1:1 i bartner G hefyd i’w chynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth o’r effaith y mae awtistiaeth yn ei gael ar G a ffyrdd y gall hi ei gefnogi.
Canlyniad y gefnogaeth hon yw bod G bellach yn aros am hyfforddiant i wirfoddoli fel tiwtor EPP. Yna bydd yn cefnogi’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i ddarparu cyrsiau EPP ychwanegol.