Mae’r tîm ‘Lleoedd Diogel’ yn Wrecsam yn grŵp o unigolion sy’n cynnal asesiadau ar wasanaethau, sefydliadau a chwmnïau ar draws awdurdod Wrecsam, i weld os ydyn nhw’n addas i gynnig ‘lle diogel’ i unigolion diamddiffyn. Un enghraifft o ‘le diogel’ fyddai lle i eistedd i rywun gyda phroblemau symudedd neu’n dioddef o bryder neu straen. Mae lle diogel yn lle tawel i ymlacio os ydi rhywun yn teimlo eu bod wedi’u llorio, ac mae cefnogaeth i gysylltu â gofalwr neu aelod o’r teulu os oes angen.
Er mwyn uwchsgilio eu gwybodaeth ac i gynnig mwy o gynwysoldeb pan fyddan nhw’n llenwi’r asesiadau hyn, mae’r tîm wedi penderfynu cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth ar Awtistiaeth a dod yn dîm Ymwybodol o Awtistiaeth gydnabyddedig. Drwy gysylltu â’r Tîm Comisiynu a Chynllunio, cwblhawyd yr hyfforddiant awtistiaeth ar-lein.
Yn defnyddio eu gwybodaeth a sgiliau newydd ynghylch awtistiaeth a ddysgwyd o’r hyfforddiant, mae’r tîm wedi datblygu taflen i gynghori busnesau a gwasanaethau ar newidiadau bychain y gallan nhw eu gwneud i sicrhau fod eu hamgylchedd yn un sy’n deall awtistiaeth ar gyfer unigolion awtistig. Mae’r daflen yn codi ymwybyddiaeth am awtistiaeth ac mae’r tîm yn annog busnesau i gwblhau’r hyfforddiant ymwybyddiaeth eu hunain.
Mae’r tîm yn bwriadu parhau i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch awtistiaeth ac i annog gwasanaethau a sefydliadau i’w rhoi yn eu lle fel Cefnogwr Awtistiaeth.