Rydw i’n cefnogi pobl sy’n chwilio am waith

Datblygwyd cyfres o adnoddau i helpu pobl awtistig ddewis yr yrfa/swydd gywir, sicrhau a chynnal swydd. Maent yn cynnwys arfau ymarferol i’r person awtistig a darpar gyflogwyr/cyflogwyr posibl.

Beth yw awtistiaeth?

Mae’r adran hon yn creu gwell dealltwriaeth o awtistiaeth. Datblygwyd amrediad o adnoddau mewn partneriaeth â phobl awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’ amlwg yn esbonio beth yw awtistiaeth a sut mae’n effeithio ar eu hymwneud â’r byd.

Cynllun ardystio cyflogaeth i bobl awtistig

Mae’r cynllun ardystio yn cydnabod rôl bwysig rhai sy’n cefnogi pobl awtistig i ddewis gyrfa/swydd addas, sicrhau a chadw gwaith.

Awtistiaeth: Canllaw i’r rhai sy’n Cefnogi Oedolion ar ôl Diagnosis

Nod y canllaw hwn yw cynyddu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth am awtistiaeth i’r rhai sy’n cynnal oedolion awtistig.

Adnoddau cyflogaeth i unigolion

Datblygwyd cyfres o adnoddau i ddewis yr yrfa/swydd gywir, sicrhau a chadw gwaith. Maent yn cynnwys arfau ymarferol i’r person awtistig.

Adnoddau i ddarparwyr hyfforddiant addysg yn y gweithle

Datblygwyd cyfres o adnoddau er mwyn i ddarparwyr Addysg yn y Gweithle gael mwy o sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth a sut i gefnogi dysgwyr yn fwy effeithiol.

Adnoddau / cysylltiadau pellach

Mae’r rhan hon yn cynnwys adnoddau a chysylltiadau allai fod yn ddefnyddiol.