Yn ôl Canllawiau CG170 NICE,  Autism in under 19s: recognition, referral and diagnosis.  [http://www.nice.org.uk/guidance/cg170]

Dylai gwasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol fod ar gael i blant a phobl ifanc ac arnynt awtistiaeth, gan gynnwys gwasanaethau iechyd y meddwl, heb ystyried eu gallu deallusol nac unrhyw ddiagnosis cyfredol arall.

Dylid cydlynu trefn a datblygiad gwasanaethau lleol i blant a phobl ifanc a chanddynt awtistiaeth (megis iechyd y corff, iechyd y meddwl, anableddau dysgu, addysg a gofal cymdeithasol) trwy gylch strategol sy’n cynrychioli amryw asiantaethau ac yn ymwneud â phobl awtistaidd o bob oedran.

Dylid asesu, rheoli a chydlynu gofal i blant a phobl ifanc a chanddynt awtistiaeth trwy gyfrwng timau arbenigol amlochrog yn y gymuned.

Dylai proffesiynolion ystyried ble y byddan nhw’n gofalu am blant a phobl ifanc a chanddynt awtistiaeth, gan leddfu unrhyw effeithiau niweidiol trwy:

  • rhoi cymhorthion gweledol;
  • newid neu addasu ystafelloedd yn rhesymol fel y bydd rhagor o le personol;
  • ystyried effeithiau’r canlynol ar y synhwyrau:
    • goleuo
    • sŵn
    • lliwiau’r waliau a’r dodrefn.

Dylid addasu prosesau gofal iechyd a chymdeithasol trwy, er enghraifft:

  • trefnu apwyntiadau ar ddechrau neu ar ddiwedd y dydd fel na fydd angen aros cymaint o amser yno;
  • rhoi ystafelloedd sengl i blant a phobl ifanc y gallai fod angen anesthetig cyffredinol arnyn nhw yn yr ysbyty.

Dylid rhoi i blant a phobl ifanc a chanddynt awtistiaeth, eu teuluoedd a’u cynhalwyr wybodaeth am awtistiaeth, modd ei rheoli a’r cymorth parhaus sydd ar gael.

Dylid trefnu i gynorthwyo plant a phobl ifanc a chanddynt awtistiaeth, eu teuluoedd a’u cynhalwyr pan fo rhagor o anghenion arnyn nhw megis oed aeddfedrwydd, dechrau neu newid ysgol a genedigaeth brawd/chwaer.

Os dywed plant a phobl ifanc yr hoffen nhw gymryd rhan mewn prosesau penderfynu, dylid cynnig ffordd gydweithredol o’u trin a gofalu amdanynt.