Mae’r cynghorion isod wedi’u seilio ar ganllawiau CG170 NICE: Autism in under 19s: support and management [www.nice.org.uk/guidance/cg170]

 

CG142 NICE: Autism in adults: diagnosis and management: [www.nice.org.uk/guidance/cg142]

Dylech chi ailasesu pobl ifanc 14 oed a chanddynt anhwylderau’r sbectrwm awtistaidd os ydyn nhw wedi bod o dan ofal gwasanaeth iechyd y meddwl i blant neu’r glasoed, i weld a fydd angen gwasanaeth i oedolion arnyn nhw.

Os bydd angen gwasanaeth i oedolion, rhowch wybodaeth i’r llencyn am y gwasanaethau a’r driniaeth y bydd eu heisiau arno.

Dylai’r pontio fynd rhagddo’n esmwyth a bod wedi’i gwblhau erbyn 18 oed.

Dylech chi asesu’r canlynol gan ddefnyddio unrhyw ddogfennau cyfredol:

  • Gweithredu personol
  • Gweithredu galwedigaethol
  • Gweithredu addysgol
  • Gweithredu a chyfathrebu cymdeithasol
  • Unrhyw gyflyrau ychwanegol, yn arbennig:
    • Iselder
    • Ofn
    • ADHD
    • OCD
    • Oedi neu anabledd deallusol

 

I’r rhai dros 16 oed ac arnynt anghenion cymhleth neu ddifrifol:

  • Paratoi cynllun gofal a thriniaeth yn ôl Mesur Iechyd y Meddwl Cymru.
  • Cynnwys y llencyn yn y cynllunio (a’r rhieni/cynhalwyr hefyd, lle bo’n briodol).
  • Rhoi gwybodaeth am wasanaethau i blant a’r hawl i fynnu asesiad ar gyfer gofal cymdeithasol.
  • Ystyried cyfarfod ffurfiol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â phroffesiynolion perthnasol eraill o’r gwasanaethau i blant ac oedolion.

Rhoi ‘trwydded iechyd’ i bob oedolyn a chanddo awtistiaeth, gan gynnwys gwybodaeth i’r staff am y gofal a’r cymorth y bydd eu hangen arno.  Cynghori’r claf i gario’r ddogfen bob amser

(a defnyddio’r ddolen â phroffil oedolyn ar waelod y dudalen i lunio proffil).