Yn ôl Canllawiau CG170 NICE,  Autism in under 19s: support and management [www.nice.org.uk/guidance/cg170]

 

Dylech chi gynnig triniaeth seicogymdeithasol a ffarmacolegol ar gyfer problemau eraill iechyd y corff neu’r meddwl mewn plant a phobl ifanc a chanddynt awtistiaeth yn ôl canllawiau perthnasol NICE megis:

Anhwylder gorfywiogrwydd a diffyg sylw (canllawiau clinigol 72 NICE)

Anhwylderau ymddwyn mewn plant a phobl ifanc (canllawiau clinigol 158 NICE)

Diffyg traul mewn plant a phobl ifanc (canllawiau clinigol 99 NICE)

Iselder mewn plant a phobl ifanc (canllawiau clinigol 28 NICE)

Epilepsi (canllawiau clinigol 137 NICE)

Anhwylder obsesiynol a chymhellol ac anhwylder gwedd y corff (canllawiau clinigol 31 NICE)

Anhwylder straen ar ôl ysgytwad (canllawiau clinigol 26 NICE).

 

Therapi ymddygiad gwybyddol

O ddefnyddio therapi ymddygiad gwybyddol i drin cyflwr arall megis ofn, dylech chi ei addasu yn ôl anghenion plentyn a chanddo awtistiaeth.

Gallai fod ar ffurf therapi grŵp sydd wedi’i addasu ar gyfer awtistiaeth neu therapi unigol os yw’r plentyn yn anesmwyth mewn grŵp.

Argymhellir yr addasiadau canlynol:

  • hyfforddiant ar gyfer adnabod teimladau;
  • defnyddio rhagor o wybodaeth ysgrifenedig a gweledol ynghyd â thaflenni gwaith strwythuredig;
  • dull gwybyddol mwy diriaethol a strwythuredig;
  • gweithgareddau gwybyddol wedi’u symleiddio megis taflenni gwaith sy’n cynnig amryw ddewisiadau;
  • gofyn i riant neu gynhaliwr eich helpu trwy, er enghraifft, ei wahodd i sesiynau therapi;
  • dal sylw’r plentyn/llencyn trwy gynnig egwyl bob hyn a hyn;
  • cynnwys diddordebau arbennig y plentyn/llencyn lle bo modd.