Mae’r cynghorion canlynol wedi’u seilio ar ganllawiau CG128 NICE, ‘Autism in under 19s: recognition, referral and diagnosis’. [www.nice.org.uk/guidance/cg128/chapter/1-Guidance#recognising-children-and-young-people-with-possible-autism]

 

Crynhoi asesu diagnostig

Llunio adroddiad a phroffil ar ôl yr asesu

Llunio proffil o’r plentyn neu’r llencyn yn ôl y pynciau canlynol:

  • gallu deallusol a dull dysgu;
  • medrau academaidd;
  • lleferydd, iaith a chyfathrebu;
  • medrau motor cain a bras;
  • ymddygiad ymaddasol (gan gynnwys y gallu i’w helpu ei hun);
  • iechyd y meddwl a’r teimladau (gan gynnwys hunan-barch);
  • iechyd y corff a maeth;
  • synhwyrau eithriadol o wan neu gryf;
  • ymddygiad allai effeithio ar y gallu i fyw yn feunyddiol ac yn gymdeithasol;
  • medrau cymdeithasu.

Ar ben hynny, rhaid ichi ysgrifennu adroddiad o ganlyniadau’r asesu gan roi’r rhesymau dros bennu’r diagnosis.

 

Adborth ar ôl diagnosis

Rhaid esbonio gerbron y rhieni/cynhalwyr (a’r plentyn/llencyn, lle bo’n briodol):

  • y rhesymau dros ddod i’r diagnosis;
  • natur awtistiaeth a sut y gallai effeithio ar y plentyn/llencyn;
  • cynnwys y proffil.

Rhoi adroddiad ysgrifenedig o’r asesu.

Cynnig llyfrau gwybodaeth, disgiau ac ati (sydd ar wefan ASDinfoWales) am anhwylderau’r sbectrwm awtistaidd.

Gofyn i’r rhieni am ganiatâd i roi’r wybodaeth i feddyg y teulu a phroffesiynolion priodol eraill ym meysydd addysg, gofal cymdeithasol ac ati.

 

Gwybodaeth i rieni/cynhalwyr

Rhoi gwybodaeth am:

  • y cymorth sydd ar gael i’r plentyn neu’r llencyn a/neu ei rieni neu ei gynhalwyr yn y fro;
  • trefniadau paratoi ar gyfer y dyfodol (megis pontio rhwng gwasanaethau i blant a’r rhai i oedolion).

 

Lledaenu gwybodaeth

Ar yr amod bod y rhieni/cynhalwyr (a, lle bo’n briodol, y plentyn/llencyn) yn fodlon, dylech chi anfon yr adroddiad a’r proffil at feddyg y teulu a phroffesiynolion priodol eraill ym meysydd addysg, gofal cymdeithasol ac ati.

Lawrlwythiadau

Ffurflen proffil plentyn
Awtistiaeth: Canllaw i Rieni a Chynhalwyr yn dilyn Diagnosis
Adnoddau ar gyfer Rhieni a Gofalwyr diagnosis canlynol