Ffilm am ARWYDDION awtistiaeth mewn plant.

Mae’n rhoi pleser mawr i ni rannu Y Parti Pen-blwydd gyda chi, sef ffilm hyfforddi i weithwyr proffesiynol.  Mae’r ail gynhyrchiad hwn (2018) yn ymgorffori adborth newydd o’r gymuned awtistaidd, yn dilyn ymgynghori ychwanegol, ac mae ar gael mewn sawl iaith.  Cynhyrchwyd y ffilm fel prosiect partneriaeth rhwng llywodraeth, prifysgol a phartneriaid clinigol ac mae wedi’i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru.Roedd ei datblygiad yn seiliedig ar ymchwil Prifysgol Caerydd cliciwch yma (Saesneg yn unig).

Ar gyfer pwy mae’r ffilm?

Mae’r ffilm wedi’i chynllunio i helpu gweithwyr proffesiynol rheng flaen i adnabod arwyddion awtistiaeth mewn plant. Rydym wedi dylunio’r ffilm er mwyn iddi fod yn addas i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio o fewn addysg, iechyd-gofal a gwasanaethau cymdeithasol, fel ychwanegiad at sesiwn hyfforddi. Nid oes angen gwybodaeth gefndirol na hyfforddiant cyn gwylio’r ffilm.

Os hoffech ddefnyddio’r ffilm ar gyfer hyfforddiant neu ar gyfer grŵp, llenwch a dychwelwch y ffurflen ganiatâd uchod. 

Diben y ffilm yw helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol ac yn arbennig er mwyn tynnu sylw at bryderon a all fod yn berthnasol ar gyfer atgyfeirio. Mewn sesiwn hyfforddi, gellir cael seibiant wrth wylio’r ffilm er mwyn hwyluso trafodaeth bellach gyda hyfforddwr. Gall y drafodaeth fod ynglŷn â’r amrywiol ffyrdd y gall yr arwyddion gyflwyno eu hunain a sut mae’r arwyddion yn ffurfio patrwm neu glwstwr i gadw golwg  amdanynt.

Mae adborth positif gan sampl eang o rieni a gweithwyr proffesiynol wedi sicrhau fod y ffilm ar gael i’r cyhoedd ehangach. Cliciwch yma i weld yr adborth (Saesneg yn unig):
sites.cardiff.ac.uk/warc/birthday-party-film-evaluation a sites.cardiff.ac.uk/warc/about-us/project-reports i ddarllen mwy am sut yr aethom ati i wneud y ffilm.

Beth yw testun y ffilm?

Mae’r ffilm yn disgrifio arwyddion awtistiaeth a welir mewn tri phlentyn mewn parti pen-blwydd. Neges y ffilm yw y gall yr un arwyddion ddangos eu hunain mewn gwahanol ffyrdd. Oherwydd y gwahaniaethau hyn, weithiau gall yr arwyddion fod yn hawdd eu colli. Gall yr arwyddion hefyd fod yn gyffredin mewn plant heb awtistiaeth felly mae’n bwysig edrych am y patrwm lle y byddant yn cyflwyno eu hunain.

Mae dau o’r plant yn y ffilm, sef Jack a Rhys yn fechgyn, ac un plentyn, sef Amy yn ferch. Maen nhw i gyd yn eithaf gwahanol a thra bo Amy yn dangos proffil gwahanol i’r ddau fachgen, nid bwriad y proffil hwn yw dangos proffil ‘nodweddiadol’ o ferch ag awtistiaeth; mae pob plentyn yn unigryw, beth bynnag fo eu rhyw. Ni fydd unrhyw ddwy ferch nac unrhyw ddau fachgen yn cyflwyno’r arwyddion yn yr un ffordd yn union.

Lawrlwythiadau

Caniatâd i ddefnyddio’r ffilm (hyfforddiant a grwpiau)
Sgript Ffilm - Y Parti Penblwydd

Cyfranwyr ffilm AMLWG Y Parti Pen-blwydd
Awtistiaeth - adnabod agweddau AMLWG

Plant bach (rhwng 2 a 4 ½ oed)

Plant a dechrau’r glasoed


Poster arwyddion awtistiaeth – Oedolion a chyfnod diweddar glasoed