Yn ôl Canllawiau CG142 NICE, ‘Autism in adults – diagnosis and management’: www.nice.org.uk/guidance/cg142

Cynnig asesu amryw anghenion teulu, cymar a chynhalwyr oedolion a chanddo awtistiaeth gan gynnwys:

  • cymorth personol, cymdeithasol a theimladol;
  • helpu cynhalwyr i gyflawni eu rôl megis trwy ofal seibiant a chynlluniau at raid;
  • eu cynghori a’u helpu i gael gafael ar gymorth;
  • cynllunio ar gyfer gofalu am yr oedolyn a chanddo awtistiaeth.


Lle mae anghenion wedi’u nodi, dylech chi roi gwybodaeth am unrhyw gylchoedd cymorth a sut mae cysylltu â nhw.

Os oes angen helpu teulu, cymar neu gynhaliwr i ofalu am oedolyn a chanddo awtistiaeth, neu os ydyn nhw’n ymwneud â thriniaeth ar ei gyfer, dylech chi gynnig gwybodaeth, cynghorion, hyfforddiant a chymorth.

Dadlwythiadau

Awtistiaeth: Canllaw i Bobl sy’n Cynorthwyo Oedolion yn dilyn diagnosis