Cynllun hyfforddi ardystiedig tai

Croeso i adran Darparwyr Tai y wefan. Isod fe welwch ragor o wybodaeth am ein cyhoeddiad diweddaraf ‘Awtistiaeth: Canllaw i Ymarferwyr o fewn Gwasanaethau Tai a Digartrefedd’ sydd wedi’i gyd-gynhyrchu dros 12 mis a chynllun ymwybyddia.

Awtistiaeth: canllaw i ymarferwyr o fewn gwasanaethau tai a digartrefedd

Mae’r canllaw hwn yn ymateb i faterion a godwyd gan bobl awtistig a gweithwyr proffesiynol trwy ymgynghoriad a hwyluswyd gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru yn 2015 ac adroddiadau a gomisiynwyd gan Shelter Cymru, sy’n amlygu’r heriau a wynebir gan bobl awtistig mewn perthynas â thai a’r gyfran uwch o bobl ddigartref sy’n awtistig.

Pwrpas y canllaw yw helpu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes tai i ddeall anghenion pobl awtistig wrth gael mynediad at wasanaethau tai yn well.

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi gweithio gyda grŵp o ran-ddeiliaid gan gynnwys gweithwyr proffesiynol Tai, cynghorwyr a pobl broffesiynol awtistig, rhieni a gofalwyr pobl awtistig a’r Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, i gynhyrchu canllaw wedi’i adnewyddu i alluogi i weithwyr proffesiynol rheng flaen i weithio gyda phobl awtistig yn well i gael mynediad i gefnogaeth a gwybodaeth Tai.

Cliciwch ar y ddelwedd isod i weld a lawrlwytho’r ddogfen gyfan neu cliciwch y ddolen i weld y penodau unigol a allai fod yn berthnasol i chi. Mae pob Pennod yn Rhan 1 wedi’i gyfeirio yn erbyn Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae Rhan 2 yn darparu canllaw trylwyr a defnyddiol am awtistiaeth.

‘Penodau unigol’.

Chwilio am lawrlwythiadau?

Cliciwch y botwm isod i weld y lawrlwythiadau sydd ar gael ar y dudalen we hon. 

Dod yn sefydliad / gwasanaeth 'Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth '

Os hoffai eich i ddod yn sefydliad sy’n ‘Ymwybodol o Awtistiaeth’ a derbyn tystysgrif sefydliad / gwasanaeth sydd wedi’i phersonoli, llenwch y ffurflen gais sydd ar gael yma:

Lawrlwythiadau

Awtistiaeth: Canllaw i Ymarferwyr o fewn Gwasanaethau Tai a Digartrefedd
Pob pennod:
Awtistiaeth: Canllaw i Ymarferwyr o fewn Gwasanaethau Tai a Digartrefedd
Rhan Un: Ymarfer Tai ac Awtistiaeth
Rhan Dau: Awtistiaeth
Atodiadau