Ffilm hyfforddi’r gwasanaethau brys

Mae ein ffilm a’n posteri Gwasanaethau Brys, y gallwch chi eu lawrlwytho, yn rhan o’n pecyn “Hyfforddi’r Hyfforddwr” ar gyfer y Gwasanaethau Brys. Rydym ni ar hyn o’r bryd yn rhoi’r cynllun ar brawf gyda Heddlu Dyfed Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, gyda’r gobaith o estyn y cynllun i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol newydd. Bydd y cynllun hefyd yn cael ei estyn i luoedd a gwasanaethau eraill ar draws Cymru yn eu tro. Mae croeso i chi ddefnyddio ein hadnoddau i godi ymwybyddiaeth ac i’ch helpu chi addasu’ch ymarfer.

Rhagor o wybodaeth

Cliciwch y botwm isod i ddarllen am Brotocol y Drindod, menter arloesol newydd a lansiwyd gan Ysgol Trinity Fields a Heddlu Gwent – Chwefror 2021. 

Dadlwythiadau

Gwasanaethau Brys