Adnabod arwyddion awtistiaeth: Ffilm am ymwybyddiaeth o awtistiaeth yn cael ei dangos ledled Ewrop

Mae ffilm at ddibenion hyfforddi a wnaed yng Nghymru yn cael ei ail-lansio'n swyddogol heddiw mewn cydweithrediad arloesol â phedair o wledydd Ewrop. Nod y ffilm yw codi ymwybyddiaeth o arwyddion awtistiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol ar lawr gwlad ym meysydd iechyd ac addysg.

Ffrwyth partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru yw’r ffilm, The Birthday Party. Cododd y syniad ar ei chyfer ar ôl i'r Llywodraeth ymgynghori ag unigolion awtistaidd, rhieni a gofalwyr, a sylwi bod bylchau yn y ddarpariaeth a bod angen mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch awtistiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol. Mae wedi'i dylunio i helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall y gwahanol ffyrdd y gall arwyddion awtistiaeth amlygu eu hunain mewn gwahanol blant.

Yn ôl Dr Catherine Jones, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru:

"Yn aml, gellir methu arwyddion awtistiaeth ond mae'n hanfodol bod gweithwyr proffesiynol yn sylweddoli beth ydynt er mwyn gallu cyfeirio'n briodol am ddiagnosis a chael y cymorth cywir gan wasanaethau gofal iechyd cymdeithasol ac addysg.

"Gyda lwc, bydd pawb sy'n gwylio fersiynau newydd ein ffilmiau yn gallu sylwi ar arwyddion sylfaenol awtistiaeth yn well ac yn ymwybodol y gall arwyddion ymddangos mewn gwahanol ffyrdd."

Mae grwpiau hyfforddi eraill yn y DU hefyd wedi defnyddio fersiwn gyntaf y ffilm hon a lansiwyd ym mis Mehefin 2017. Cafodd ei chreu yn dilyn ymgynghoriad Tîm Datblygu Cenedlaethol ASD – yng ngofal Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru – gydag unigolion awtistig, rhieni a gofalwyr.

Yn ôl y Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), Llefarydd WGLA ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

"Rydw i’n falch dros ben bod gwaith arloesol Tîm Datblygu Cenedlaethol ASD wrth godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth yng Nghymru, ynghyd â gwaith Prifysgol Caerdydd a phartneriaid eraill, wedi arwain at gydweithio rhyngwladol fydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o Anhwylder y Sbectrwm Awtistig ymysg gweithwyr proffesiynol yn Sbaen, Latvia, yr Eidal a Lithwania.

"Mae gan unigolion ag awtistiaeth yr un hawl â phawb arall i deimlo'n rhan o gymdeithas, a thrwy godi ymwybyddiaeth pawb, gallwn gyfrannu at greu amgylcheddau sy'n ofalgar o ran awtistiaeth."

Gan fod gwledydd eraill yn Ewrop wedi dangos diddordeb, rydym bellach yn cydweithio â Sbaen, yr Eidal, Latfia a Lithwania. Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sy'n ariannu'r prosiect cydweithredol hwn.

Ym mhob gwlad, mae partneriaeth rhwng elusennau a’r Brifysgol wedi creu tîm gydag ymgynghorwyr o'r gymuned awtistiaeth. Crëwyd ffilmiau Cymraeg a Saesneg newydd o ganlyniad i hynny yn ogystal â chyfieithiadau newydd mewn Sbaeneg, Eidaleg, Latfieg a Lithwaneg.  Bydd yn cyd-fynd hefyd â deunydd hyfforddi arall ym maes addysg yn rhan o raglen Dysgu ag Awtistiaeth y Llywodraeth mewn ysgolion.

Meddai Līga Bērziņa, Cadeirydd Cymdeithas Awtistiaeth Latfia:

“Yn Latfia, bu diffyg dealltwriaeth ymhlith gweithwyr addysgol proffesiynol ynghylch sut i adnabod arwyddion awtistiaeth a’u cefnogi. Mae plant awtistaidd wedi’u gwahardd o ysgolion am nad oedd pobl yn deall eu hymddygiad. Mae fersiwn Latfiaidd o ffilm The Brirthday Party eisoes yn cael effaith sylweddol ar ymarferwyr addysgol ac yn newid agweddau. Rydym yn dechrau defnyddio’r ffilm, yn ogystal ag adnoddau eraill Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru, yn rhan o ymarfer meddygol yn yr Ysbyty Athrofaol Clinigol i Blant ac mewn ymarfer dysgu.”

Ffilm ar gyfer gweithwyr proffesiynol yw hon yn bennaf, ac mae ar gael ar gyfer y cyhoedd yn www.autismchildsigns.com


Nodiadau i olygyddion

1. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Julia Short

Cyfathrebu a Marchnata

Prifysgol Caerdydd

Ffôn: 02920 875596

E-bost: ShortJ4@caerdydd.ac.uk

2. Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei chydnabod yn asesiadau annibynnol y llywodraeth fel un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae'n aelod o Grŵp Russell, sef prifysgolion y Deyrnas Unedig sy'n rhoi'r pwyslais mwyaf ar waith ymchwil. Gosododd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 y Brifysgol yn y 5ed safle ar draws y Deyrnas Unedig ar gyfer rhagoriaeth ymchwil. Ymhlith ei staff academaidd mae dau sydd wedi ennill Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel mewn Meddygaeth 2007, yr Athro Syr Martin Evans.  Sefydlwyd y Brifysgol drwy Siarter Frenhinol ym 1883, a heddiw mae'n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae arbenigedd eang y Brifysgol yn cynnwys: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol; Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, ynghyd ag ymrwymiad hirdymor i ddysgu gydol oes. Mae Sefydliadau Ymchwil blaenllaw Caerdydd yn cynnig dulliau newydd radical o fynd i'r afael â phroblemau byd-eang pwysig. www.caerdydd.ac.uk