Adroddiad Cryno am Ymgynghori

Yn unol â Chynllun Cyfamserol Llywodraeth Cymru, cynhalion ni amryw weithgareddau ymgynghori â phobl ac arnynt anhwylderau, eu rhieni a’u cynhalwyr yn ystod 2015.  Mae gwybodaeth ddefnyddiol iawn am anghenion a bylchau yn yr hyn sydd ar gael trwy Gymru gyfan wedi deillio o hynny.  Fe fyddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth i fireinio Cynllun Gweithredu Cymru (mae rhagor o fanylion ar  www.ASDinfoWales.co.uk).

Mae’r gwaith hwnnw wedi cyfeirio rhan o’n rhaglen ddatblygu ehangach hefyd, gan helpu i lunio adnoddau, hyfforddiant a dulliau fydd o gymorth i bobl ac arnynt anhwylderau, eu teuluoedd, eu cynhalwyr a phroffesiynolion.

Rydyn ni wedi dechrau mynd i’r afael â rhai materion ddaeth i’r amlwg yn ystod yr ymgynghori megis rhaglen hyfforddi i ysgolion cynradd (Dysgu gydag Awtistiaeth), hyfforddiant i’r rhai sy’n helpu pobl ac arnynt anhwylderau (Gweithio gydag Awtistiaeth), hyfforddiant i arbenigwyr iechyd y meddwl, pecyn cymorth i’r rhai sy’n ymwneud ag asesu diagnostig a nifer o adnoddau i rieni a chynhalwyr.  Cyflwynir y rheiny fis Mawrth.

Hoffen ni ddiolch i’r rhai gymerodd ran yn yr ymgynghori trwy gyflwyno eu sylwadau a sôn am eu profiad.

Adroddiad Cryno am Ymgynghori