Yn ystod tymor yr haf 2016, cymerodd yr ysgol ran yn y rhaglen wobrwyo "Dysgu gydag Awtistiaeth". Mae hon yn wobr genedlaethol gan ASD Info Cymru, ac fe'i lansiwyd ym Mhowys yn nhymor y gwanwyn 2016.
Ysgol Bro Tawe yw'r ysgol gynradd gyntaf ym Mhowys i gwblhau'r rhaglen hyfforddi gyfan a chael y wobr "Dysgu gydag Awtistiaeth". Y nod yw y bydd ymarferwyr o'r adran addysg yn rhaeadru'r hyfforddiant ledled ardal eu clwstwr. Mae'r rhaglen wedi'i hanelu at yr holl staff, y rhai sy'n addysgu a'r rhai nad ydynt yn addysgu, ynghyd â llywodraethwyr a disgyblion CA2, er mwyn codi ymwybyddiaeth o ASD.
Darparwyd yr hyfforddiant gan Ms C Long, yr Athro â Gofal am y Ganolfan ASD Cynradd yn Ysgol Bro Tawe, a chafodd yr holl staff a'r llywodraethwyr yn yr ysgol dystysgrif ar ôl cwblhau'r hyfforddiant. Cafodd yr holl ddisgyblion yn CA1 wobr "Uwcharwr Awtistiaeth" ar ôl cwblhau'r hyfforddiant.
Cydweithio
Bu'n rhaid hefyd gynnal archwiliad i sicrhau bod athrawon wedi addasu cynlluniau ystafelloedd dosbarth neu wedi defnyddio strategaethau i gefnogi unrhyw ddisgyblion ag ASD sy'n integreiddio i mewn i'r ystafell ddosbarth brif ffrwd.
Ar ôl i'r hyfforddiant llawn gael ei ddarparu, cyflwynodd yr ysgol yr wybodaeth berthnasol i ASD Info Cymru, a rhoddwyd y wobr "Dysgu gydag Awtistiaeth" i'r ysgol.
“Rydym yn cydweithio â chanolfannau ASD ac ysgolion eraill sy'n gweithio tuag at gyflawni'r wobr ASD," meddai'r Pennaeth, Mr Rees.
Gallwch ofyn i'r Athro â Gofal am y Ganolfan ASD am gyngor. Fel rhan o'r gwasanaeth Allgymorth hwn, mae'r wobr Dysgu gydag Awtistiaeth yn cael ei hyrwyddo ymhlith ein staff, ac mae hyfforddiant yn cael ei gynnig iddynt.
Mae myfyrwyr TAR presennol o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael trosolwg o'r wobr hon gan Ms C Long mewn seminar ALN ddiweddar a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2016.
Ar 19 Ionawr 2017, bydd yr Athro â Gofal yn darparu hyfforddiant sirol gyda'r Prif Seicolegydd Addysg ac aelod o'r tîm LIST.
Hyfforddiant
Yn ogystal â'r wobr Dysgu gydag Awtistiaeth eleni, ac fel rhan o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus staff y Ganolfan ASD, cwblhaodd tri aelod o staff y cwrs Sgiliau Ymarferol i Dechnegwyr Ymddygiad, a gynhaliwyd gan y Clinic Dadansoddi Ymddygiad ym Mhrifysgol De Cymru, Pontypridd.
Ymgymerodd staff y Ganolfan â'r hyfforddiant hwn fel bod disgyblion sydd ar hyn o bryd yn dilyn rhaglen Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn eu cartrefi yn gallu mynychu'r Ganolfan ASD.
Mae Penaethiaid a staff eraill o awdurdodau addysg lleol cyfagos hefyd wedi ymweld â'r Ganolfan ASD i arsylwi ar arfer da ac i gael cyngor gan staff y Ganolfan. Mae'r Athro â Gofal hefyd wedi rhoi cyngor i ysgolion o awdurdodau addysg lleol eraill.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Ysgol Gynradd Abbey, Awel y Môr ac YGG Pontardawe – Castell-nedd Port Talbot
Llanfaes a Llangynidr – Powys
“Y tymor hwn, mae Grŵp Cymorth i Rieni ASD wedi cael ei sefydlu yn yr ysgol. Gall rieni plant ag ASD yn ardal y clwstwr ddod i'r grŵp hwn yn fisol, a bydd yn galluogi rhieni i helpu ei gilydd i reoli anghenion eu plant yn yr ysgol a gartref," meddai Mr Rees.
“Bydd siaradwyr gwadd hefyd yn cael eu gwahodd i siarad â'r grŵp. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar les y disgyblion."