Yn y cynllun cyflawni interim, amlinellwyd y camau y byddwn yn eu cymryd yn 2015-16.
Rydym yn gweithio gyda grŵp cynghori arbenigol o randdeiliaid i adnewyddu’r cynllun gweithredu strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig. Caiff y cynllun newydd ei gyhoeddi yn 2016.
Crynodeb 2015
Mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydym wedi gofyn i bobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr am eu profiadau wrth gael gwasanaethau a chymorth.
Mae’r adborth hwn wedi ein helpu i nodi’r bylchau yn y ddarpariaeth bresennol ac i amlygu lle dylid mynd i’r afael ag anghenion heb eu diwallu.
Rydym hefyd wedi canfod bod angen gwneud rhagor i:
- wella gwasanaethau diagnostig,
- darparu cymorth ar gyfer materion emosiynol/ymddygiadol,
- mynd i’r afael â materion ASD penodol
- gwella sgiliau bywyd – gan gynnwys gwell mynediad a gweithgareddau cymdeithasol a hamdden mewn cymunedau lleol.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i ddatblygu’r cynllun gweithredu ymhellach – a bydd ymgynghoriad yn dilyn yn 2016.
Lawrlwytho Dogfen