Llywodreath Cymru Newyddion – £7 miliwn ychwanegol ar gyfer gwasanaeth awtistiaeth arloesol i Gymru gyfan

Ar ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, mae Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi y bydd £7 miliwn ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol.  

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i greu gwasanaeth cenedlaethol i roi cymorth am oes i blant ac oedolion sydd ag awtistiaeth, a’u teuluoedd. Bydd y gwasanaeth arloesol hwn, a fydd ar gael ym mhob man erbyn 2018, yn darparu gwasanaethau diagnostig newydd ar gyfer oedolion; cymorth i deuluoedd a gofalwyr; cymorth i bontio o ddarpariaethau plant i ddarpariaethau oedolion; a hyfforddiant ar gyfer gweithwyr proffesiynol.

Bydd y £7 miliwn ychwanegol, sydd wedi ei gyhoeddi ar gyfer y pedair blynedd 2017/18 – 2020/21, yn sicrhau y gall pob rhanbarth yng Nghymru ddarparu cymorth cyson a chynaliadwy o ansawdd uchel i’r rheini sydd ag awtistiaeth.   

Dywedodd Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

“Ers amser maith, mae Cymru wedi bod yn arwain y ffordd o ran darparu cymorth i bobl ag awtistiaeth a’u teuluoedd, gan gyhoeddi ein cynllun gweithredu cyntaf yn ôl yn 2008. Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol yn gam pwysig arall ymlaen. Bydd yn helpu i sicrhau bod y gwasanaethau y mae pobl yn eu derbyn yn rhai cyson a bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn cael y cymorth priodol ar yr amser iawn.

“Mae’r cyllid ychwanegol dw i wedi ei gyhoeddi heddiw, ar ddechrau Wythnos Genedlaethol Awtistiaeth, yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella gwasanaethau awtistiaeth. Dw i’n hyderus y bydd y cyllid hwn dros gyfnod o bedair blynedd yn sicrhau y bydd ein rhanbarthau’n gallu darparu cymorth cynaliadwy i deuluoedd.”

Bydd y cyllid hefyd yn helpu i roi ar waith ein Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig. Mae’n cynnwys ymrwymiad i ddatblygu adnoddau awtistiaeth gwell, megis y cynllun newydd “Weli Di Fi?” sydd wedi ei ddatblygu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a fydd yn cael ei gyflwyno’n raddol yn ystod y misoedd nesaf.

Mae’r fenter hon yn hyrwyddo dealltwriaeth a chynhwysiant mewn perthynas ag awtistiaeth o fewn cymunedau yng Nghymru. Mae’n cael ei lansio heddiw gyda fideo sy’n dangos cefnogaeth gan sêr o’r byd pêl-droed a rygbi cenedlaethol yng Nghymru.

Crëwyd taflenni a phosteri i’w rhoi mewn  siopau, banciau, siopau trin gwallt a sinemâu yn ogystal â phractisau deintyddion a meddygon teulu, er mwyn helpu pobl i gyfathrebu â phobl ag awtistiaeth. Gall pobl ag awtistiaeth ddewis a ydynt am wneud pobl eraill yn ymwybodol o’u hawtistiaeth drwy wisgo band llawes neu ddangos cerdyn (a fydd hefyd ar gael ar gyfer ffonau symudol).

Dywedodd Steve Thomas CBE, Prif Weithredwr y WLGA:
“Bydd y cynllun yma, sydd wedi ei arwain gan Dîm Cenedlaethol Datblygu ASA o fewn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn gam pwysig yn nhermau adnabod anghenion unigolion gydag ASA ar draws cymunedau yng Nghymru. Rwyf yn falch iawn y bydd awdurdodau lleol yn cymeryd hyn ymlaen ac yn chwarae rôl yn hyrwyddo’r ymgyrch. Mae’r Gymdeithas yn croesawu’n gynnes y cyllid ychwanegol sydd wedi ei gyhoeddi gan y Gweinidog, a fydd yn dyfnhau ein gwaith efo unigolion gydag ASA, eu teuluoedd a gofalwyr, a’r rhai sydd yn gweithio gyda phlant ac oedolion gydag ASA.”