Mae’n hadnodd ni, ‘Gweithio gydag Awtistiaeth’, ar gael bellach ar ein gwefan.

Mae’r adnodd wedi’i lunio i helpu’r rhai ac arnyn nhw anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd i chwilio am swyddi.  Mae’n cynnwys agweddau rhyngweithiol megis geiriadur medrau a rhaglen llunio CV yn ogystal â deunydd dysgu a datblygu i’r proffesiynolion sy’n helpu pobl i ddod o hyd i swyddi.  Mae ffilm hyfforddi wedi’i chyflwyno gan Aled Pugh (‘Bobby’ yn rhaglen deledu Stella) a chynllun tystysgrif i staff, hefyd.

Mae rhaglen ffôn poced ar y gweill, a bydd ar gael cyn bo hir.

Mae’n dda gyda ni fod Canolfan Byd Gwaith, Gyrfaoedd Cymru a Remploy Cymru wedi ymroi i godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth, a byddan nhw’n cyflwyno’r adnodd ymhlith eu staff ledled Cymru dros yr wythnosau i ddod.

Mae’r adnodd ar gael i bawb er y bydd rhaid cofrestru i ddefnyddio rhai agweddau.

Mae modd agor yr adnodd trwy wasgu botwm ‘Cyflogaeth’ ar wefan www.ASDinfoWales.co.uk neu roi’r cyfeiriad canlynol yn eich porydd: www.ASDinfoWales.co.uk/employment

Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adnodd o gymorth i chi.

Gwiethio gydag Awtistiaeth