Newyddion Llywodraeth Cymru – Mesurau newydd i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun blwyddyn i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau gweithredu ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASD) (Llun 18 Mai).

Yn gefn i’r cynllun cyflawni interim newydd mae cyllid o £600,000, sydd ar ben y grant seilwaith ASD o £880,000 a drosglwyddwyd i’r grant setliad refeniw awdurdod lleol eleni.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi £2m i datblygu gwasanaethau penodol i roi gwell diagnosis a chymorth i bobl ifanc ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac anhwylder ar y sbectrwm awtistig. Bydd hyn yn lleihau amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol plant a'r glasoed, fel bod y rheini â’r anghenion clinigol mwyaf yn cael eu gweld yn fwy prydlon.

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Strategol ASD Llywodraeth Cymru yn 2008 ac ers hynny darparwyd mwy na £12m i’w roi ar waith.  

Mae’r Gweinidogion wedi ymrwymo i adnewyddu’r cynllun gweithredu a sefydlwyd grŵp cynghori rhanddeiliaid i helpu i’w ddatblygu.

Bydd y cynllun cyflawni interim yn bwrw ymlaen â’r camau gweithredu pwysicaf y bydd y grŵp cynghori yn eu nodi wrth adnewyddu’r cynllun gweithredu ASD.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Mynd i’r afael ag oedi wrth roi diagnosis a gwella llwybrau diagnostig ASD
  • datblygu opsiynau ar gyfer gwasanaeth integredig i nodi anghenion sydd heb eu diwallu a mynd i’r afael â’r bylchau mwyaf acíwt mewn gwasanaethau a chymorth
  • gwella canlyniadau addysg a chyflogaeth, gan gynnwys trosglwyddo
  • datblygu gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a deunyddiau ac adnoddau hyfforddi proffesiynol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford:

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi nifer o fesurau newydd i wella’r proses o roi diagnosis i blant, pobl ifanc ac oedolion ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig a’r gwasanaethau sydd ar gael i’w cefnogi.

“Mae’r cynllun hwn, gyda mwy na £600,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn amlinellu’r hyn rydyn ni eisiau ei gyflawni dros y 12 mis nesaf, a bydd ei ganlyniadau’n dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch nodau hirdymor.

“Rydyn ni hefyd yn buddsoddi £2m i ddatblygu gwasanaethau penodol er mwyn rhoi diagnosis a chymorth gwell i bobl ifanc ag ADHD ac ASD. Bydd yn lleihau amseroedd aros am wasanaethau iechyd meddwl arbenigol plant a'r glasoed fel bod y rhai â’r anghenion clinigol mwyaf yn cael eu gweld yn fwy prydlon.”

Bydd y camau yn y cynllun cyflawni interim yn helpu i roi Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar waith, gan gynnwys cydweithredu, asesiad o anghenion poblogaethau, atal problemau a chynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth.

Cymru oedd y rhan gyntaf o’r DU i wneud gwaith strategol ym maes awtistiaeth drwy gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Strategol ASD yn 2008. Ers hynny, mae partneriaid mewn asiantaethau statudol a gwirfoddol wedi gweithio gyda grwpiau rhanddeiliaid i ddatblygu gwasanaethau lleol sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ag awtistiaeth, eu rhieni a’u gofalwyr.