Rydym yn falch o rannu bod Y Parti Pen-blwydd, prosiect ar y cyd rhwng y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol a Chanolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ennill gwobr ‘Effaith Ryngwladol Eithriadol’ yng Ngwobrau Dathlu Effaith IAA. Roedd y seremoni, a gynhaliwyd ar 20 Mai, yn cydnabod dylanwad byd-eang sylweddol y ffilm hyfforddiant hon wrth godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth.
Ffilm hyfforddiant 18 munud o hyd yw The Birthday Party ac mae wedi’i chynllunio i gynorthwyo gweithwyr rheng flaen i nodi arwyddion amrywiol a chynnil awtistiaeth mewn plant. Trwy bortreadu tri o blant awtistig yn mynd i barti pen-blwydd, mae’n darparu mewnwelediadau ymarferol i athrawon, gweithwyr gofal iechyd a phobl eraill sy’n gweithio gyda phlant. Fe’i datblygwyd yn 2017 ar sail ymchwil helaeth, ac mae’r ffilm wedi dod yn adnodd pwysig yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Mae’r ffilm wedi cyrraedd 23 o wledydd, ar ôl cael ei chyfieithu i bum iaith (Ffrangeg, Eidaleg, Latfieg, Lithwaneg a Sbaeneg) a’i defnyddio gan fwy na 150 o sefydliadau rhyngwladol. O hyfforddiant i athrawon yn Fietnam ac Awstralia i ddatblygiad proffesiynol gofal iechyd yn Kenya a Venezuela, mae The Birthday Party wedi helpu i wella dealltwriaeth o awtistiaeth ar draws y byd. Mae wedi cael ei gwylio 100,000 o weithiau ac mae’n parhau i chwarae rôl wrth hybu cynhwysiant a dealltwriaeth.
Mae ymarferwyr o wledydd gan gynnwys y DU, yr Eidal a Sbaen wedi gweld gwelliannau o ran adnabod arwyddion awtistiaeth a lleihau stigma ar ôl defnyddio’r ffilm mewn hyfforddiant. Dywedodd gweithiwr gofal iechyd yn Kenya ei bod wedi ei helpu i adnabod awtistiaeth mewn merched yn fwy effeithiol, gan arwain at atgyfeiriadau gwell. Yn yr un modd, dywedodd athro yn Fietnam fod portread y ffilm o ferch awtistig wedi annog trafodaethau gwerthfawr am awtistiaeth a rhywedd ymhlith cydweithwyr.
Mae llwyddiant The Birthday Party yn adlewyrchu gwerth cydweithio. Trwy weithio mewn partneriaeth â chymunedau awtistig lleol a sefydliadau elusennol ym mhob gwlad, mae’r prosiect wedi helpu i faethu rhwydwaith rhyngwladol sy’n ymrwymedig i wella ymwybyddiaeth. Mae modd gweld y ffilm ar wefan Niwrowahaniaeth Cymru a thudalen we Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru.
Mae’r wobr hon yn dangos ymroddiad pawb a fu’n rhan o greu a rhannu’r ffilm, yn ogystal â’r gweithwyr proffesiynol a’r addysgwyr ar draws y byd sy’n parhau i’w defnyddio yn eu gwaith. Rydym yn falch o fod wedi bod yn rhan o’r fenter hon ac edrychwn ymlaen at weld ei heffaith barhaus.