Rydym yn falch o gael cyhoeddi lansiad ein ffilm fer newydd, Beth ydym yn ei olygu gan Niwroamrywiaeth a Niwrowahaniaeth?, sydd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Cyd-gynhyrchwyd y ffilm hon gan grŵp ymgynghorol o weithwyr proffesiynol a phobl niwrowahanol, sy’n adlewyrchu ymrwymiad ein tîm i gyd-gynhyrchu a sicrhau bod lleisiau pobl go iawn yn llywio’r sgwrs.
Pam fod hyn yn bwysig? Defnyddir termau fel niwroamrywiaeth a niwrowahaniaeth yn fwyfwy aml mewn gweithleoedd, ym myd addysg ac mewn cymunedau ar draws y gymdeithas, ond eto, mae dryswch ynglŷn â’r termau hyn yn gyffredin. Heb eglurder, mae yna berygl o gamddealltwriaeth neu greu rhwystrau i bobl niwrowahanol yn anfwriadol. Nod y ffilm hon yw newid hyn drwy gynnig eglurhad pendant, hawdd ei ddeall mewn ychydig funudau.
Mae niwroamrywiaeth yn cyfeirio at yr amrywiaeth o wahaniaethau yn y ffordd y mae pobl yn amgyffred, prosesu a rhyngweithio â’r byd. Mae niwroamrywiaeth yn ffaith fiolegol – yn union fel y mae gan ddynoliaeth nodweddion amrywiol fel ethnigrwydd, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol, mae hefyd yn amrywiol yn niwrolegol. Mae’r niwroamrywiaeth hwn yn rhan werthfawr ac angenrheidiol o gymdeithas weithredol.
Mae niwrowahaniaeth yn derm sy’n cwmpasu amrywiaeth o wahaniaethau niwrolegol. Mae’n gyffredin i bobl fod â mwy nag un o’r gwahaniaethau hyn, a dywedir bod gan y rhain niwrowahaniaethau lluosog. Nid oes angen i unigolyn gael diagnosis i uniaethu fel person niwrowahanol.
Dylem gydnabod niwrowahaniaeth fel amrywiad naturiol.
Mae’n hanfodol ein bod ni’n deall y cysyniadau hyn, gan fod cymdeithas yn aml yn creu rhwystrau diangen i bobl niwrowahanol. Drwy gynyddu ymwybyddiaeth, gallwn feithrin amgylcheddau mwy cynhwysol lle mae pawb yn ffynnu. Mae’r ffilm hefyd yn tynnu sylw at ffyrdd ymarferol o gefnogi unigolion niwrowahanol – pethau fel cynnig hyblygrwydd, addasu amgylcheddau synhwyraidd, a pheidio â chymryd pethau’n ganiataol.
Rydym yn eich gwahodd i wylio’r ffilm, ei rhannu’n eang, ac i gychwyn sgyrsiau am yr hyn y mae niwroamrywiaeth yn ei olygu yn eich cyd-destun chi. Gyda’n gilydd, gallwn symud tuag at gymdeithas sy’n gwerthfawrogi gwahaniaeth fel cryfder yn hytrach na’i ystyried yn wendid.

