Gyda diweddglo Eisteddfod Wrexham 2025 mae hi’n amser perffaith i edrych nôl ar ein amser ar faes yr Eisteddfod.

Bu i ni ddechrau wythnos dydd Llun 4ydd Awst yn Y Gromen ym Mhentref Wrecsam yn nigwyddiad Rhwydweithio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y cyd gyda Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru am 15:30-16:30. O dan y thema Cefnogi Cymunedau rhannwyd y pwysigrwydd o ymgysylltu a chyfranogiad i ni fel tîm a sut rydym yn ymdrechu i sicrhau bod llais y gymuned Niwrowahanol yn treiddio trwy ein gwaith.

Cafodd yr eitem ei gyflwyno gan y Cynghorydd Nia Jeffreys o Gyngor Gwynedd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a cafwyd cyflwyniad gan Sioned Thomas gyda Frances Rees ar gael i rannu ein adnoddau ac ateb unrhyw gwestiwn gan y gynulleidfa.
Cymeron y cyfle i lansio ein ‘Galwad i Weithredu’ i estyn allan i siaradwyr Cymraeg i gyfrannu eu lleisiau a phrofiad gyda ni. Dyma linc i’n tudalen Cymerwch Ran i ddatgan eich diddordeb i weithio gyda ni https://neurodivergencewales.org/cy/cymerwch-ran/ yn berson niwrowahanol, proffesiynol, rhiant neu ofalwr neu cyfuniad o bob un!
Roedd yn galonogol gweld nifer o arweinwyr cynghorau lleol Cymru yn y gynulleidfa ynghyd â Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol. Roedd hefyd yn wych rhannu’r gofod gyda ein cydweithwyr o Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru, Chyngor Wrecsam a Partneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru. Enghraifft perffaith o’r cydweithio rydym yn gwneud fel tîm.

Dydd Mercher 6ed Awst bu i Sioned Thomas gymryd rhan mewn digwyddiad Meddwl yn Wahanol Sefydliad y Merched Cymru am 10:30-11:30 yn eu stondin ar y maes.
Mae ymgyrch SyM ‘Meddwl yn Wahanol: Menywod a Merched Awtistig ac ag ADHD’ yn ceisio codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ac ADHD mewn menywod a merched ac yn galw am weithredu i wella’r broses o wneud diagnosis ac i gynyddu darpariaeth y gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Mae hefyd yn ceisio mynd i’r afael a herio’r stereoteipiau am fenywod awtistig a menywod ag ADHD ac yn galw am fuddsoddiad mewn ymchwil i gyflwyniad awtistiaeth ac ADHD mewn benywod. Ceir wybodaeth bellach am yr ymgyrch yma: https://www.thewi.org.uk/campaigns/key-and-current-campaigns/thinking-differently

Cymerodd Sioned rhan mewn panel cwestiwn ac ateb ar ran y tîm i rhannu gwybodaeth am ein gwaith, mynediad i wybodaeth a gwasanaethau i ferched awtistig ac ADHD yng Nghymru a’r pwysigrwydd o sicrhau bod llais pobl awtistig ac ADHD yn cael ei glywed. Roedd yn fraint rhannu’r panel gyda Non Parry a Vicky Powner yn rhannu eu profiadau byw o dan arweiniad Heledd Fychan AS.
Diolch Eisteddfod Wrecsam am y cyfle i rannu ein gwaith a chodi ymwybyddiaeth o niwrowahaniaeth, tan tro nesaf!

