Ymgysylltu i Newid – Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi derbyn grant o £10m

Mehefin 2016 – Mawrth 2021. Ariennir gan grant Ar y Blaen 2 Cronfa'r Loteri Fawr.

Mae Anabledd Dysgu Cymru wedi derbyn grant o £10m i roi hwb i ragolygon cyflogaeth pobl ifanc yng Nghymru gydag anabledd dysgu ac/neu anhawster dysgu yn cynnwys awtistiaeth.

Fe fydd y prosiect 5 mlynedd,Ymgysylltu i Newid, fydd yn dechrau yn Ebrill 2016, yn gweithio gyda 800 o gyflogwyr ar draws Cymru i helpu 1,000 o bobl ifanc gydag anabledd dysgu ac /neu awtistiaeth i ddatblygu eu sgiliau cyflogaeth trwy leoliadau gwaith cyflogedig yn para rhwng 6 a 12 mis.

Darllenwch fwy am y prosiect yma:

www.adcymru.org.uk/prosiectau/prosiectau-cyfredol/ymgysylltu-i-newid.aspx#.V6NJJeQYEqk