Gwers Sgilti ac Addewid Disgyblion

Mae ein gwers Sgilti yn dangos rhai o’r sialensiau a wynebir gan bobl ifanc ag ASA yn ystod diwrnod ysgol arferol i gyfoedion. Mae’r wers wedi’i chynllunio i symbylu trafodaeth a chynyddu dealltwriaeth. Edrychwch ar flog fideo Sgilti yma:

A wyt ti wedi cwblhau dy wers Sgilti?

Byddi’n gallu ymgeisio am dy dystysgrif Ymwybodol o Awtistiaeth yma. Dyweda wrthym ni beth yw dy enw, ysgol a pha ardal wyt ti’n byw ynddi gan gymryd ein haddewid awtistiaeth. Byddwn yn rhoi tystysgrif swyddogol i brofi dy fod yn Ymwybodol o Awtistiaeth!

Ysgolion Cymru i gysylltu â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer eu hysgol unigol cyn ymgymryd â’r rhaglen Dysgu am Awtistiaeth. Bydd creu’r cyfrifon defnyddwyr unigryw yn helpu ysgolion i fonitro eu cynnydd, a bydd hefyd yn arbed amser gan na fydd angen i unigolion greu eu cyfrifon defnyddwyr eu hunain i gwblhau’r cynlluniau ardystiedig.