Ymddygiad Heriol / Ymddygiad Trallodus
Mae Niwrowahaniaeth Cymru yn ceisio symud i ffwrdd o ddefnyddio’r term ‘ymddygiad heriol’.
Y prif reswm am hyn yw bod yr iaith hon yn awgrymu bod gan y person sy'n arddangos yr ymddygiad rywfaint o reolaeth neu ddewis drosto. Yn aml mae achosion yr ymddygiadau hyn yn gymdeithasol neu'n amgylcheddol, neu oherwydd poen synhwyraidd neu gorfforol.
Gall y materion hyn gael eu heffeithio ymhellach gan bobl eraill nad ydynt yn deall anghenion y person.
Ar gyfer yr adnoddau ar y dudalen hon, byddwn yn defnyddio’r term ‘ymddygiad trallodus.’
Lawrlwythiadau
Adborth Adnoddau Niwrowahaniaeth Cymru
Mae’r broses o ddiweddaru’r adnoddau ar wefan Niwrowahaniaeth Cymru yn mynd rhagddi, ac rydym bob amser yn awyddus i ofyn am adborth pobl er mwyn gwneud hyn. Defnyddiwch y ffurflen hon i roi sylwadau ar unrhyw un o’r adnoddau ar y wefan.