Adnoddau / cysylltiadau pellach

Mae’r rhan hon yn cynnwys adnoddau a chysylltiadau allai fod yn ddefnyddiol.

Arweinwyr Awtistiaeth yr Ardal Leol

Mae gan bob Awdurdod Lleol Arweinydd Awtistiaeth sy’n gyswllt allweddol am wybodaeth, cyngor a chanllawiau ar awtistiaeth yn yr ardal.

Dewis Cymru

Dewis Cymru yw’r safle i gael gwybodaeth neu gyngor am wasanaethau o fewn eich ardal, yn ogystal â gwybodaeth am eich lles.

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Mae 7 Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ar draws Cymru. Maen nhw’n bartneriaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Eu prif ffocws yw oedolion awtistig nad ydynt yn cael mynediad at wasanaethau statudol neu oedolion sydd angen asesiad diagnostig.

Dolenni Defnyddiol

O fewn y rhan hon o’r wefan mae detholiad o adnoddau gwe eraill a allai fod o gymorth i bobl awtistig a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.