Strategaeth Llywodraeth Cymru

Dywedodd y Cyng. Huw Davies, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

“Mae CLlLC yn croesawu cyhoeddi Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig sy’n pwysleisio’r ymrwymiad i wneud cynnydd gwirioneddol ac arwyddocaol yn y gwasanaethau, gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl ag awtistiaeth yng Nghymru. Fel sefydliad, rydym yn falch o fod yn gyfranwyr allweddol tuag at lwyddiant a gyflawnwyd o ganlyniad i’r cynllun gweithredu blaenorol, a byddwn yn parhau i sicrhau fod Cymru yn arwain y ffordd trwy gefnogi datblygu gwasanaeth awtistiaeth integredig newydd.”

Mae’r Cynllun yn amlinellu amcanion i:

  • gyflwyno amser aros targed o 26 o wythnosau o’r adeg pan fydd plentyn ag awtistiaeth yn cael ei atgyfeirio hyd at yr apwyntiad cyntaf
  • gweddnewid y cymorth addysg ar gyfer plant ag anhwylder y sbectrwm awtistig
  • gweithredu llwybr asesu cenedlaethol ar gyfer plant
  • gwella cyfleoedd cyflogaeth i unigolion ag awtistiaeth
  • cefnogi sefydliadau i ddod yn gyfeillgar i awtistiaeth
  • codi ymwybyddiaeth o wybodaeth ac adnoddau.


I weld y Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtisig a’r Cynllun Cyflwyno ASA sy’n cyd-fynd ag ef, cliciwch ar y dogfennau isod.

Lawrlwythiadau

Cod Ymarfer ar Gyflenwi gwasanaethau awtistiaeth (Gorffennaf 2021)

Sut rydyn ni’n darparu gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru: hawdd ei ddeall (Gorffennaf 2021)
Cynllun cyflawni awtistiaeth 2021 i 2022
Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig (ASD) – Cynllun Cyflawni Adroddiad Blynyddol 2019 i 2020
Diweddariad o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig

Anhwylder y sbectrwm awtistiaeth: adroddiad blynyddol 2018 i 2019


Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig Cynllun Cyflawni 2016-2020

Asesiad o Effaith ar yr Iaith Gymraeg - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer ASA
Equality impact assessment - ASD Strategic Action Plan (Saesneg yn unig)
Adroddiad grwp gorchwyl a Gorffen Diagnosis ASD Oedolion