Mae B yn fenyw 35 oed sy’n byw gyda’i rhieni oedrannus mewn cymuned wledig fechan. Mae B wedi derbyn diagnosis awtistiaeth ond nid oedd wedi derbyn unrhyw gefnogaeth ôl-ddiagnostig. Cafodd B ei hatgyfeirio i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ym mis Gorffennaf 2018 a chwblhaodd Gwrs Ôl-Ddiagnostig.
Nid yw B yn gweithio ar hyn o bryd ond roedd yn weithgar iawn yn ei heglwys leol. Roedd B yn ynysig iawn yn gymdeithasol ar ôl i’w pherthynas chwalu gydag aelodau hŷn ac aelodau’r eglwys. Roedd cyfres o ddigwyddiadau a chamddealltwriaeth wedi digwydd nad oedd B yn gallu eu datrys. Roedd B yn teimlo ei bod wedi ei ‘gadael allan’ o’r eglwys a rhoddodd y gorau i fynychu. Roedd hyn wedi gwaethygu symptomau pryder ac iselder presennol a arweiniodd at hwyliau isel iawn. Ym mis Rhagfyr 2018, roedd B wedi e-bostio gweithiwr cefnogi yn y gwasanaeth oedd ganddi gysylltiad blaenorol â nhw, yn mynegi syniadaeth o hunanladdiad a hunan-niwed.
Roedd yr ymyrraeth ganlynol wedi’i rhoi ar waith:
- Presenoldeb ar y cwrs ôl-ddiagnostig blaenorol y soniwyd amdano.
- Gwaith cefnogaeth 1:1.
- Presenoldeb SAFE (grŵp perthynas).
- Magu hyder.
- Rheoli gorbryder drwy ddefnyddio graddfa pum pwynt ac ymwybyddiaeth ofalgar
- Cysylltu gydag aelodau hŷn yr eglwys.
- Datblygu sgiliau bywyd bob dydd e.e. golchi dillad a choginio.
Canlyniadau’r ymyrraeth hyn oedd:
- Mae B nawr yn gallu golchi dillad ei hun ac mae’n dysgu coginio.
- Mae B yn teimlo’n hapusach yn gyffredinol.
- Mae B yn datblygu ei sgiliau cymdeithasol drwy fynychu amser coffi yn yr eglwys.
- Mae B yn gallu rheoli ei hiechyd corfforol ei hun a chysylltu â’i meddyg teulu yn annibynnol.
- Roedd B wedi ailsefydlu ei pherthynas gyda’r eglwys, yn mynychu taith gyda’r eglwys i Lourdes, gwasanaeth newydd yn yr eglwys, gweini ger yr allor a chanu yn y côr.
- Mae hyder B wedi cynyddu a ddangosir drwy: ganu unawd yn y côr, ymdopi gyda sefyllfa anodd a theimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.
- Mae B yn teimlo ei bod yn barod i reoli unrhyw gamddealltwriaeth yn y dyfodol.