Cafodd D ddiagnosis o awtistiaeth ar ôl ymddeol o yrfa lwyddiannus iawn yn y lluoedd. Roedd yn gweld ymddeoliad yn arbennig o anodd oherwydd y diffyg trefn a strwythur yn ei fywyd. Roedd diagnosis o awtistiaeth D yn gwneud iddo deimlo’n ddryslyd ac yn rhwystredig ac nid oedd yn siŵr sut i symud ymlaen o hyn a dysgu byw gyda’i ddiagnosis. Roedd D hefyd yn dechrau teimlo’n fwy a mwy ynysig, a arweiniodd ato’n teimlo’n isel iawn.
Ar ôl cyfarfod mewn CANOLBWYNT gwybodaeth, gwahoddwyd D i fynychu gweithdy ôl-ddiagnostig. Yn y cyfarfod cyntaf, roedd D yn teimlo’n nerfus iawn ac yn ansicr o’r hyn i’w ddisgwyl. Fodd bynnag, ar ôl clywed y seicolegydd yn siarad a gwrando ar aelodau awtistig o’r grŵp yn rhannu eu meddyliau a’u teimladau am eu bywyd fel pobl awtistig, buan y sylweddolodd D eu bod ganddyn nhw i gyd deimladau, pryderon a meddyliau tebyg. Roedd hyn yn meithrin ymdeimlad o gysylltiad i D.
Erbyn yr ail gyfarfod, roedd D yn dechrau cyfrannu mwy ac ymgysylltu ag aelodau eraill o’r grŵp. Wrth i’r cwrs agosáu at y diwedd, rhannodd D ei feddyliau a’i bryderon gyda’r grŵp a daeth yn llawer mwy agored i sgyrsiau. Tyfodd ei hyder a daeth yn llefarydd lleisiol dros y grŵp. Trefnodd D hefyd i gyfnewid manylion cyswllt â’r aelodau eraill a chynnig cefnogaeth i aelod arall o’r grŵp a oedd yn amlwg yn cael trafferth â’i emosiynau.
Diolchodd D i’r tîm am ei wahodd i’r cwrs. Roedd yn amlwg ei fod yn teimlo’n galonogol o weld faint yr oedd wedi’i gyflawni drwy fynychu.