Gofynnwyd i Therapydd Galwedigaethol IAS gynnal gwaith ar y cyd gyda Therapydd Galwedigaethol iechyd meddwl amenedigol i gefnogi cleient a oedd wedi cael diagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar ac yn 17 wythnos yn feichiog. Roedd y sgan 20 wythnos ar y gweill, ac roedd y cleient yn dechrau mynd yn bryderus, am fod y sgan 12 wythnos wedi bod yn brofiad drwg o ganlyniad i’w hanawsterau synhwyraidd a chyfathrebu.
Fe wnaeth y Therapydd Galwedigaethol Amenedigol a’r Therapydd Galwedigaethol IAS gyfarfod gyda’r cleient, a gyda’i gilydd fe wnaethant drafod pa addasiadau y gellid eu gwneud i helpu’r cleient deimlo’n fwy cyfforddus yn y sgan 20 wythnos e.e. cael ei phartner yna, ysgrifennu cwestiynau i lawr cyn mynd, aros yn y car a dim ond ei galw i mewn pan roeddent yn barod i’w gweld hi, addasu’r golau ac ati. Dywedwyd hyn wrth yr adran uwchsain ac nid oedd ganddynt unrhyw broblemau i wneud yr addasiadau hynny i’r cleient.
Ochr yn ochr â hyn, fe wnaeth y Therapydd Galwedigaethol IAS gynnal asesiad synhwyraidd, gan adrodd yn ôl ar hyn a rhoi strategaethau yn eu lle i helpu gyda’r prif anawsterau o brosesu gweledol, sŵn a chyffwrdd. Fe wnaeth y Therapydd Galwedigaethol IAS hefyd greu proffil un dudalen gyda’r cleient y gallai fynd gyda hi i’r sgan a hefyd ei ddefnyddio mewn apwyntiadau ysbyty/bydwraig eraill, yn amlinellu ei phrif anawsterau a sut y gellid ei chefnogi.
Fe wnaeth y Therapydd Galwedigaethol IAS hefyd gyfarfod y cleient a’i gŵr, a chynnal rhywfaint o waith ymwybyddiaeth awtistiaeth gyda gŵr y cleient a oedd yn awyddus iawn i ddysgu mwy am awtistiaeth a sut y gallai gefnogi ei wraig. Mae gwaith yn mynd rhagddo nawr i edrych ar sut y gallant gyfathrebu’n fwy effeithiol yn eu perthynas, yn enwedig pan mae’r cleient yn bryderus neu wedi cynhyrfu, gan fod hwn yn faes a oedd yn profi fwyaf anodd iddynt.