Mae’r cynghorion isod wedi’u seilio ar ganllawiau CG142 NICE: Autism in adults: diagnosis and management: http://www.nice.org.uk/guidance/cg142]

Proffesiynolion cymwysedig a medrus ddylai asesu pobl – a hynny trwy gyfrwng tîm ac ynddo amryw alwedigaethau a medrau.

Fel arfer, byddai tîm sy’n asesu oedolion ynglŷn ag anhwylderau’r sbectrwm awtistaidd yn ymwneud â meysydd arbenigol megis:

  • Seiciatreg
  • Seicoleg glinigol
  • Therapi galwedigaethol
  • Therapi iaith a lleferydd
  • Nyrsio arbenigol

Proffesiynolion a chanddynt brofiad arbenigol o asesu a diagnosis ym maes awtistiaeth ddylai ysgwyddo cyfrifoldeb am asesiadau cymhleth.

Dadlwythiadau

NICE Guideline CG142: Autism in adults: diagnosis and management